Tystysgrif AAT mewn Cadw Cyfrifon Lefel 3 (Lefel 3)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rheiny sy’n dymuno canolbwyntio’n unig ar ddatblygu eu sgiliau cadw cyfrifon er mwyn symud ymlaen yn gyflym i gyflogaeth neu ganolbwyntio ar ddod yn geidwad cyfrifon. Efallai y bydd myfyrwyr hefyd am ddechrau gyda’r cymhwyster hwn cyn symud ymlaen i gwblhau Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifyddu er mwyn ennill gwybodaeth ehangach am gyfrifeg.
Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer pobl hunangyflogedig sy’n dymuno rheoli eu cyfrifon eu hunain. Mae’r cwrs yn agored i’r rheiny sydd yn gweithio a’r rheiny nad ydynt ar hyn o bryd mewn swydd.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy’n talu am hyfforddiant a sefyll arholiad cychwynnol - pris ar gael ar gais.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd yn dymuno datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prosesau ariannol gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau cyfrifyddu, cadw cyfrifon uwch a pharatoi datganiadau ariannol.
Yn ogystal, bydd yn cyflwyno’r myfyriwr i faterion busnes yn ymwneud â’r gyflogres a threth ar werth (TAW).
Cyflwynir y cwrs hwn gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol sy’n cyfuno gweithgareddau wyneb yn wyneb ac ar-lein mewn llif dysgu di-dor a chyflenwol.
Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda’r Corff Proffesiynol. Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.
Bydd y cwrs yn eich helpu i ddarganfod y maes celf penodol rydych yn frwd ynglŷn ag ef a bydd yn eich cefnogi yn eich cais UCAS ar gyfer astudio gradd. Ar draws y flwyddyn, trwy raglen bwrpasol, byddwch yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a phortffolio gweledol er mwyn mynychu eich cyfweliadau gradd. Mae hi’n rhaglen hynod feithringar ac anogol sydd wedi datblygu hyder a sgiliau mewn llawer o bobl sydd wedi symud ymlaen i fwynhau profiad prifysgol.
Mae llawer o’n myfyrwyr yn dewis mynd ymlaen yn uniongyrchol i raglenni gradd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, y byddwch chi’n gymwys i gael bwrsariaeth dilyniant mewnol o £1000 ar eu cyfer.
Bydd y sgiliau cadw cyfrifon a ddatblygir trwy astudio’r cymhwyster hwn yn galluogi myfyriwr i chwilio am waith yn hyderus a/neu symud ymlaen i’r lefel ddysgu nesaf.
Gallai’r sgiliau a ddatblygir wrth astudio’r cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth fel:
- Ceidwad Cyfrifon Proffesiynol
- Uwch Geidwad Cyfrifon
- Rheolwr Cyfrifon
- Rheolwr Cyfriflyfrau.
Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn yn dymuno mynd ymlaen i gwblhau’r Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifyddu.
Mae’r asesiad ar gyfer y cymhwyster hwn ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser.
Bydd ystod o fathau o gwestiynau a fformatau yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr yn yr asesiad. Gall y rhain gynnwys cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy’n dyblygu gweithgareddau’r gweithle.
Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio Dyfarniad Mynediad AAT i Feddalwedd Cyfrifyddu. Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a Mathemateg.
Cofrestru AAT - £91
Ffioedd Arholiad/Asesu AAT - £122