Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (aat) - Tystysgrif mewn Cyfrifyddu (ar-lein) (Cwrs Coleg)
- Campws Aberystwyth
Mae gyrfa mewn cyfrifeg a chyllid yn cynnig ystod eang o gyfleoedd mewn amrywiol ddiwydiannau a sectorau. Mae cyfrifyddion a gweithwyr proffesiynol cyllid yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli gwybodaeth ariannol, dadansoddi data, a darparu arweiniad strategol i sefydliadau.
Mae’r cwrs hwn yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg neu gyllid. Pwrpas y cwrs yw cynnig sylfaen yn y wybodaeth a’r sgiliau cyfrifyddu craidd sydd eu hangen i symud ymlaen yn eich gyrfa neu ar gyfer astudio pellach.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer pobl ifanc sydd newydd adael yr ysgol yn ogystal ag i oedolion sydd yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant neu ar gyfer unrhyw un sydd yn dymuno newid gyrfa. Mae’r cwrs yn agored i’r rheiny sydd yn gweithio a’r rheiny nad ydynt ar hyn o bryd mewn swydd. Hefyd, gallai’r cymhwyster hwn helpu rhywun sydd eisoes yn gweithio mewn rôl gyllid neu gyfrifyddu lefel mynediad i symud ymlaen yn eu gyrfa trwy gynnig datblygiad a chydnabyddiaeth ffurfiol iddynt o’u sgiliau.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd myfyriwr sydd yn cwblhau’r cymhwyster hwn yn datblygu sgiliau mewn cofnodi dwbl a bydd yn deall sut i ddefnyddio dyddlyfrau, cyfrifon rheoli a mantolen brawf. Hefyd, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd cyfrifyddu, sut i brosesu gwybodaeth ariannol yn unol â gweithdrefnau ac atodlenni’r cwmni, a sut i ddarparu gwybodaeth i gydweithwyr, cyflenwyr a/neu gwsmeriaid yn ôl y gofyn.
Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda’r Corff Proffesiynol. Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.
Ar y cwrs Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cyfrifyddu hwn, bydd myfyrwyr yn astudio:
- Cyfrifyddu ariannol (gan gynnwys cadw cyfrifon ar gyfer gwerthiannau, pryniadau a gweithgareddau busnes cyffredinol - yn ogystal â drafftio, mantoli a chysoni cyfrifon).
- Cyfrifon rheoli (gan gynnwys cyllidebu, prisio stocrestr a thechnegau costio ar gyfer llafur, deunyddiau a threuliau).
- Yr amgylchedd busnes ehangach y mae cyfrifyddu yn bodoli ynddo (gan gynnwys agweddau ar gyfraith contractau, cynaladwyedd, moeseg ac economeg fyd-eang).
Bydd myfyriwr sydd yn cwblhau’r cymhwyster hwn yn datblygu sgiliau mewn cofnodi dwbl a bydd yn dysgu sut i ddrafftio, mantoli a chysoni cyfrifon mewn system gyfrifyddu. Byddant hefyd yn astudio hanfodion cyfrifon rheoli - technegau costio, cyllidebu a phrisio a ddefnyddir gan fusnesau - ac yn archwilio’r amgylchedd busnes ehangach y mae cyfrifyddu a chyllid yn bodoli ynddo.
Gweler yr adran Cynnwys y Rhaglen am ragor o wybodaeth am y pynciau a astudir.
Mae 4 arholiad i’w sefyll yn ystod y cwrs, a gynhelir ar gampws Aberystwyth. Heblaw am arholiadau a chofrestru, cynhelir y cwrs ar-lein a does dim gofyniad i fynychu’r campws.
Mae gwersi’n cael eu gosod ar-lein bob wythnos; gellir cwblhau’r rhain pan fo’n gyfleus ac felly gellir eu trefnu o gwmpas ymrwymiadau gwaith a theulu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfarfod ar-lein wythnosol byr gyda thiwtor y cwrs i drafod eu cynnydd.
Mae’r AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) yn ei gwneud yn ofynnol i bob myfyriwr gofrestru gyda’r AAT er mwyn cwblhau’r cwrs hwn. Gweler yr adran Costau Ychwanegol am fwy o wybodaeth am ffioedd AAT. Mae mwy o wybodaeth am yr AAT yn gyffredinol ar gael yn: www.aat.org.uk
Mae’r asesiadau yn y cymhwyster hwn ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser.
Bydd ystod o fathau o gwestiynau a fformatau yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr yn yr asesiad. Gall y rhain gynnwys cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy’n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr.
Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio’r Dystysgrif AAT Lefel 2 mewn Cyfrifyddu. Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a Mathemateg.
Fel canllaw, mae costau cyrsiau ar gyfer 2023/24 yn gyfanswm o £900, sy’n cynnwys:
Ffioedd cofrestru ac arholiadau’r AAT: £417
Ffioedd dysgu’r coleg: £483.
Efallai y bydd opsiynau cyllido ar gael i helpu gyda chostau cwrs. Mae prentisiaethau a ariennir gan y Llywodraeth hefyd yn cael eu cynnig i ymgeiswyr sydd eisoes yn gweithio mewn lleoliad cyfrifyddu neu gyllid. Holwch am ragor o wybodaeth.