Skip page header and navigation

Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau (Cwrs Prentisiaeth)

  • Caerdydd
20 Mis

Rhaglen dysgu seiliedig ar waith yw hon sy’n briodol i unigolion sy’n gweithio ym maes Rheoli Prosiectau mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae prosiectau’n sicrhau newidiadau buddiol mewn byd sy’n mynd yn fwy cyflym a chymhleth. Gydag adnoddau prin, mae cymdeithas yn mynnu mwy o effeithiolrwydd, cymhwysedd, atebolrwydd ac, yn fwy a mwy, nid yw’n goddef methiant prosiectau.

Mae’r Diploma mewn Rheoli Prosiectau, a’i gynnwys yn y Brentisiaeth Uwch, wedi’i gynllunio i sicrhau mwy o fynediad i weithwyr prosiect proffesiynol cymwys i’r farchnad waith.

Mae’r diploma hwn yn rhoi cyfle clir i gynyddu cymhwysedd a llenwi bylchau sgiliau a nodwyd, er enghraifft, sgiliau rheoli budd-ddeiliaid, delio â chymhlethdod, sgiliau cyfathrebu a chymwyseddau technegol fel amserlennu prosiectau, rheoli risg, gwerth a enillir, cynllunio ac amcangyfrif.

Cyflwynir y cymhwyster hwn mewn partneriaeth ag IUNGO Solutions.
Mae Diploma Lefel 4 Agored mewn Rheoli Prosiectau yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar unigolion i ymgymryd â rolau rheoli prosiectau mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd busnes.

Mae’r cymhwyster lefel 4 hwn yn helpu i:

  • adeiladu gweithlu rheoli prosiectau cymwys, gan ddarparu i sefydliadau o bob maint ar draws pob sector y staff sydd eu hangen er mwyn cynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd
  • manteisio ar sgiliau a doniau poblogaeth amrywiol trwy ddarparu llwybrau mynediad hyblyg i yrfa mewn rheoli prosiectau
  • rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar unigolion i ymgymryd â rolau rheoli prosiectau mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd busnes.
  • rhoi cyfle i brentisiaid ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad y bydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i rolau lefel uwch gyda chyfrifoldebau ychwanegol ac ymlaen i addysgu bellach ac uwch, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
20 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau

Er mwyn ennill diploma lefel 4 Agored mewn Rheoli Prosiectau rhaid cyflawni cyfanswm o 120 credyd. Caiff 50 credyd eu cyflawni o’r 3 uned orfodol. Cyflawnir 70 credyd pellach o’r unedau opsiynol.

Unedau Enghreifftiol

  • Egwyddorion Rheoli Prosiectau
  • Rheoli Budd-ddeiliaid Prosiect
  • Cyfathrebiadau Prosiect
  • Rheoli Cyllid Prosiect

Prif Gymwysterau

Diploma Lefel 4 Agored Cymru mewn Rheoli Prosiectau.

Sgiliau Hanfodol Cymru: Llythrennedd Digidol, Rhifedd* a Chyfathrebu*

*Mae prentisiaid sydd â gradd TGAU A*-C, neu gyfwerth, wedi’u heithrio rhag cymryd y Sgiliau Hanfodol hyn.

Bydd ennill Diploma Lefel 4 Agored mewn Rheoli Prosiectau yn llwyddiannus yn caniatáu dysgwyr i symud ymlaen i rolau rheolwr prosiectau pellach. 

Gall prentisiaid uwch, gyda chefnogaeth a chyfleoedd yn y gweithle, symud ymlaen i:

  • ystod o gymwysterau Rheoli Prosiectau a chymwysterau eraill, gan gynnwys y rheiny ar lefel 5 ac uwch, a’r rheiny sydd wedi’u hachredu’n rhyngwladol
  •  addysg uwch i ymgymryd â chymwysterau Rheoli Prosiectau neu gymwysterau eraill, gan gynnwys Graddau neu Raddau Meistr mewn Rheoli Prosiectau

Ffocws asesu

Mae’r asesu ar gyfer diploma Lefel 4 Agored mewn Rheoli Prosiectau yn cynnwys ysgrifennu academaidd ac asesu ymarferol yn y gweithle. Amlinellir yr holl ddyddiadau asesu ar ddechrau modiwl er mwyn hwyluso’r cynllunio a’r paratoi.

Graddio’r asesu

Nid yw’r cymhwyster hwn yn cael ei raddio. Bydd dysgwyr yn derbyn naill ai Pas neu Fethu. Rhaid bodloni’r holl feini prawf asesu er mwyn cyflawni Pas.

Cyflawni’r cymhwyster

Mae’r holl asesiadau ar gyfer y cymhwyster hwn yn cyfeirio at feini prawf, yn seiliedig ar gyflawni deilliannau dysgu penodol. I ennill Pas ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwr fod wedi bodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer pob uned. Os na chyflawnir y cymhwyster cyfan, gellir rhoi credyd ar ffurf datganiad o gredyd uned annibynnol. Bydd datganiadau o gredyd uned annibynnol yn amodol ar gyfredolrwydd y cymhwyster presennol a gwiriadau sicrhau ansawdd Agored. Bydd penderfyniad Agored yn derfynol.

Mae ymgeiswyr fel rheol yn 18 oed neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru.

Does dim gofynion mynediad gorfodol ar gyfer y fframwaith Prentisiaeth Uwch hwn. Fodd bynnag, mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu prentisiaid sydd â diddordeb mawr mewn gyrfa mewn rheoli prosiectau, neu brofiad ymarferol ohoni. Yn ychwanegol, maent yn disgwyl i ymgeiswyr ddangos agwedd “gallaf wneud” a meddu ar sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu da y bydd y Brentisiaeth yn adeiladu arnynt.

Os ydych yn gymwys, mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu hariannu’n llawn.

Mwy o gyrsiau Busnes, Cyllid a Rheolaeth

Chwiliwch am gyrsiau