Tystysgrif Lefel 2 Gweinyddiaeth Feddygol A Sgiliau Cyfathrebu (Lefel 2)
- Campws Y Graig
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n dymuno symud ymlaen mewn amgylchedd gweinyddiaeth feddygol.
Gall y dysgwr ddechrau neu symud ymlaen yn broffesiynol o fewn gyrfa fel gweinyddwr neu ysgrifennydd meddygol, gan helpu cleifion a darparu cefnogaeth hanfodol i feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Bydd y cymhwyster lefel dau yn cwmpasu meysydd sy’n ymwneud â sgiliau gweinyddu mewn amgylchedd meddygol a sgiliau cyfathrebu mewn amgylchedd meddygol
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Darparu cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o weinyddiaeth a sgiliau cyfathrebu
- Cyfuniad o gyflwyniad ar y safle ac ar-lein
- Cyflwynir gan ddarlithwyr cymwysedig
- Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n darparu llwybr dilyniant i gyflogaeth neu gymhwyster lefel uwch.
- Datblygiad proffesiynol parhaus
Bydd Sgiliau Gweinyddu yn cynnwys:
- Gweithdrefnau sy’n ymwneud â chofrestru cleifion
- Apwyntiadau a systemau apwyntiadau
- Defnydd o gyfarpar swyddfa
- Dyletswyddau gweinyddol cyffredinol swyddfa
- Pwysigrwydd rheoli amser a chywirdeb
Bydd Sgiliau Cyfathrebu yn cynnwys:
- Datblygu sgiliau i gyfathrebu gydag ystod o bobl
- Datblygu sgiliau mewn cyfathrebu wyneb yn wyneb, ysgrifenedig a di-eiriau
- Datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfathrebu a ffactorau sy’n gwneud cyfathrebu’n anodd
- Datblygu sgiliau ar gyfer cyfansoddi dogfennau ysgrifenedig priodol
Gall ymgeiswyr sy’n cyflawni’r cymhwyster hwn symud ymlaen:
- I mewn i gyflogaeth
- Tystysgrif Lefel 2 Terminoleg Feddygol a Chlywdeipio ym Maes Meddygaeth
Bydd asesu ar ffurf dwy dasg o dan gyfyngiadau amser - un mewn Gweinyddiaeth Feddygol ac un mewn Sgiliau Cyfathrebu - a fydd yn cynhyrchu tystiolaeth o gyflawniad ar gyfer yr holl feini prawf asesu a’r deilliannau dysgu gofynnol.
Tystysgrifau Agored Cymru mewn:
- Sgiliau Gweinyddu mewn Amgylchedd Meddygol
- Sgiliau Cyfathrebu mewn Amgylchedd Meddygol
Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn, er yr ystyrir bod dealltwriaeth dda o’r Saesneg yn fuddiol gyda ffocws arbennig ar gywirdeb sillafu, ynghyd â naill ai profiad mewn amgylchedd meddygol neu awydd i symud i’r maes hwn.
Mae ffioedd rhan-amser ym Mand Ffioedd H ynghlwm wrth y cwrs. Does dim costau ychwanegol yn gysylltiedig â’r cymhwyster hwn.