Skip page header and navigation

Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cadw Cyfrifon (Cwrs Coleg, Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws Pibwrlwyd
18 wythnosau - Ionawr 2025

Mae’r cwrs hwn yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg neu gyllid. 

Pwrpas y cwrs yw cynnig sylfaen ar gyfer y wybodaeth a’r sgiliau cyfrifyddu craidd sydd eu hangen i symud ymlaen naill ai i gyflogaeth neu astudio pellach.

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer pobl ifanc sydd newydd adael yr ysgol yn ogystal ag oedolion sydd yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant neu unrhyw un sydd yn dymuno newid gyrfa. Mae’r cwrs yn agored i’r rheiny sydd yn gweithio a’r rheiny nad ydynt ar hyn o bryd mewn swydd. Hefyd, gallai’r cymhwyster hwn helpu rhywun sydd eisoes yn gweithio mewn rôl gyllid lefel mynediad i symud ymlaen yn eu gyrfa trwy gynnig datblygiad a chydnabyddiaeth ffurfiol iddynt o’u sgiliau

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy’n talu am hyfforddiant a sefyll arholiad cychwynnol - pris ar gael ar gais.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
18 wythnosau - Ionawr 2025

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn yn datblygu ystod eang o sgiliau cyfrifyddu, yn ogystal â sgiliau busnes a phersonol sy’n gysylltiedig â chyfrifyddu. Ymdrinnir yn ogystal â chofnodi dwbl, costio sylfaenol a dealltwriaeth o lyfrau prynu, gwerthu a chyfriflyfrau cyffredinol. Bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth o feddalwedd cyfrifyddu ac yn datblygu sgiliau ac ymddygiadau sydd eu hangen i gyfrannu’n effeithiol yn y gweithle.  Mae hyn yn cynnwys sgiliau cyfathrebu a TG a dealltwriaeth o’r amgylchedd busnes.

Cyflwynir y cwrs hwn gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol sy’n cyfuno gweithgareddau wyneb yn wyneb ac ar-lein mewn llif dysgu di-dor a chyflenwol.

Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda’r corff proffesiynol.  Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.

Mae Tystysgrif AAT mewn Cyfrifyddu yn cwmpasu ystod o sgiliau cyfrifyddu a chyllid a busnes mewn pedair uned orfodol:

  • Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
  • Egwyddorion Rheolyddion Cadw Cyfrifon
  • Egwyddorion Costio
  • Yr Amgylchedd Busnes

Caiff y tair uned gyntaf eu hasesu’n unigol mewn asesiadau diwedd uned. Asesiad synoptig yw’r bedwaredd uned sy’n defnyddio ac yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r unedau eraill.

Bydd y sgiliau cyfrifeg a ddatblygir trwy astudio’r cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i chwilio am waith yn hyderus a/neu symud ymlaen i’r lefel ddysgu nesaf. 

Gall y sgiliau cyllid, cyfrifeg, busnes a chyfathrebu a ddatblygir yn y Dystysgrif AAT mewn Cyfrifyddu arwain at gyflogaeth fel:

  • Gweinyddwr cyfrifon
  • Cynorthwyydd cyfrifon
  • Clerc cyfrifon taladwy
  • Clerc llyfr prynu/llyfr gwerthu
  • Technegydd cyfrifyddu dan hyfforddiant
  • Cynorthwyydd cyllid dan hyfforddiant

Bydd y wybodaeth gyfrifeg a chyllid a ddatblygir yn y cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i’r cymwysterau Diploma mewn Cyfrifyddu (lefel 3) a Diploma mewn Cyfrifyddu Proffesiynol.

O dan y fenter Cyrsiau am Ddim ar gyfer Swyddi, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer cwrs Lefel 3 wedi’i ariannu’n llawn. Fel arall, gallwch wneud cais am fenthyciad dysgwr uwch i dalu cost eich astudiaeth Lefel 3. Gofynnwch i aelod o staff y coleg am fwy o wybodaeth. (lefel 4).

Mae’r asesiadau yn y cymhwyster hwn ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser. 

Bydd ystod o fathau o gwestiynau a fformatau yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr yn yr asesiad. Gall y rhain gynnwys cwestiynau amlddewis, ymatebion ysgrifenedig estynedig, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy’n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr.

Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio’r Dystysgrif AAT mewn Cyfrifyddu.  Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a mathemateg. 

Mae’n bosibl y gall myfyrwyr sydd ag unrhyw gymwysterau ysgol neu goleg perthnasol, gradd neu rywfaint o brofiad cyfrifyddu, mewn amgylchiadau penodol, hawlio eithriadau.

Mae angen i fyfyrwyr ddarparu eu deunydd ysgrifennu eu hunain a gwerslyfrau (os oes angen).  Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Cofrestru AAT - £66

Ffioedd Arholiad/Asesu AAT - £122