Tystysgrif Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Lefel 4)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer rheolwyr canol newydd ac uchelgeisiol sydd wir eisiau mynd i’r afael â’u rolau ac ennill peth gwybodaeth gynhwysfawr am fusnes.
Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau technegol i’ch helpu i arwain yn effeithiol ar y lefel hon.
Mae gan bob myfyriwr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.
Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy’n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Sesiynau addysgu misol gyda sesiynau tiwtorial unigol i drafod cynnydd.
Mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar reoli newid a gweithredu prosiectau o fewn y sefydliad. Dysgwch am bwysigrwydd rheoli newid yn effeithiol a mynd â’ch tîm gyda chi.
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill gan gynnwys:
- Diploma Lefel 4 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Tri aseiniad i’w cwblhau (tua 3000 o eiriau yr un)
- Bod yn gweithio mewn swydd reoli neu arwain tîm
- Profiad o astudio diweddar ar lefel tri
Cost y cwrs yw band ffioedd I (£190).