Prentisiaeth mewn Cyfrifyddu AAT (Cwrs Prentisiaeth)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnig llwybr cynhwysfawr trwy dair lefel o arbenigedd cyfrifyddu, pob un wedi’i theilwra i wahanol gamau datblygu gyrfa. Mae Lefel 2 yn darparu sgiliau sylfaenol sy’n addas ar gyfer swyddi lefel mynediad, gan gwmpasu pynciau fel cofnodi dwbl a chostio sylfaenol. Mae Lefel 3 yn ymchwilio’n ddyfnach i brosesau ariannol a thechnegau rheoli, gan gynnwys cadw cyfrifon uwch a pharatoi datganiadau ariannol. Mae Lefel 4 yn cynnig hyfforddiant uwch mewn tasgau cyfrifyddu cymhleth fel drafftio datganiadau ariannol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig a systemau cyfrifyddu mewnol. Cyflwynir pob lefel trwy ddysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan sicrhau dealltwriaeth gadarn o egwyddorion ac arferion cyfrifyddu.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Dysgu wyneb yn wyneb ar y campws
- Datblygu sgiliau cyfrifyddu a sgiliau busnes
- Cefnogaeth gan ymgynghorydd hyfforddi
- Adolygiadau rheolaidd yn y gweithle
Mae’n cynnwys unedau fel:
- Lefel 2: Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon, Egwyddorion Costio
- Lefel 3: Cyfrifyddu Terfynol: Paratoi Datganiadau Ariannol, Technegau Cyfrifon Rheoli
- Lefel 4: Cyfrifon Rheoli Cymhwysol, Systemau a Rheolaethau Cyfrifyddu Mewnol
Lefel 2:
Mae cwblhau’r lefel hon yn paratoi myfyrwyr ar gyfer rolau lefel mynediad fel:
- Gweinyddwr Cyfrifon
- Cynorthwyydd Cyfrifon
- Clerc Llyfr Prynu/Llyfr Gwerthu
Lefel 3:
Ar gwblhau’r lefel hon, gall myfyrwyr ganlyn rolau fel:
- Cyfrifydd Cynorthwyol
- Archwiliwr Dan Hyfforddiant
- Rheolwr Credyd
Lefel 4:
Ar y lefel uwch hon, caiff myfyrwyr eu paratoi ar gyfer swyddi fel:
- Swyddog Cyllid
- Goruchwyliwr Treth
- Uwch Geidwad Cyfrifon
Mae asesu trwy asesiadau diwedd uned ac asesiad synoptig.
Mae angen cyflogaeth addas ar gyfer mynediad. Argymhellir sgiliau Saesneg a Mathemateg sylfaenol. Gall eithriadau fod yn berthnasol ar sail cymwysterau neu brofiad blaenorol.
Gall myfyrwyr fynd i gostau ar gyfer arholiadau ac ymweliadau addysgol.