Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes (Cwrs Coleg, Lefel 3)
- Campws Aberystwyth
Gall gyrfa mewn busnes fod yn gyffrous a gwerth chweil hefyd, gan ei bod yn cynnig cyfleoedd amrywiol ar gyfer twf. Mae gyrfaoedd busnes yn ymestyn ar draws amrywiol ddiwydiannau a sectorau, a gallant gynnwys rolau mewn rheolaeth, marchnata, cyllid, gweithrediadau, entrepreneuriaeth a mwy.
Mae’r cwrs Diploma Estynedig mewn Busnes yn cynnig cyfuniad o wybodaeth academaidd, ymchwil ymarferol, ac enghreifftiau busnes bywyd go iawn. Nid yw’n ymwneud ag astudio offer a chysyniadau busnes yn unig; byddwch chi hefyd yn ennill arbenigedd pwysig a sgiliau hanfodol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.
Trwy gydol y cwrs, byddwch yn cael cyfleoedd i wella eich cyflogadwyedd ac ennill sgiliau trosglwyddadwy. Gyda ffocws ar waith tîm, arweinyddiaeth, gwytnwch, a rheoli prosiect, byddwch wedi eich paratoi’n dda ar gyfer y farchnad swyddi. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd, gydag ystod eang o rolau swyddi ar gael yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat hefyd unwaith eich bod wedi cwblhau’r cwrs.
Cynlluniwyd y cwrs i ddatblygu a meithrin eich ysbryd entrepreneuraidd. Dychmygwch ddatblygu syniad busnes mewn lleoliad fel Dragon’s Den, gan archwilio a mireinio eich meddylfryd a’ch sgiliau entrepreneuraidd. Mae’n gyfle anhygoel i ryddhau eich creadigrwydd a’ch brwdfrydedd.
Yng Ngholeg Ceredigion, rydyn ni’n mynd â dysgu i’r lefel nesaf trwy gydweithio’n agos gyda busnesau lleol. Rydyn ni’n dod â senarios realistig i mewn i’r ystafell ddosbarth, gan wneud eich dysgu a’ch asesiadau’n ddiddorol ac ysbrydoledig. Byddwch yn cael cipolwg ar yr amgylchedd busnes lleol a rhyngwladol, gan eich paratoi ar gyfer llwyddiant yn y byd go iawn. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i roi hwb i’ch gyrfa.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Uchafbwyntiau’r Rhaglen:
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau a arweinir gan ddysgwyr a derbyn arweiniad gan diwtoriaid wrth i chi gysylltu â busnesau lleol.
- Paratoi ar gyfer heriau gwaith tîm, tasgau arweinyddiaeth, a rheoli digwyddiadau.
Mewnwelediadau Byd Go Iawn:
- Siaradwyr gwadd ac entrepreneuriaid yn rhannu profiadau a heriau busnes y byd go iawn.
- Ennill dealltwriaeth ddyfnach o Gymru a’i phresenoldeb byd-eang, gan roi digon o gyfleoedd i chi archwilio’r iaith Gymraeg, diwylliant Cymru a chyfleoedd busnes.
Teithiau Tramor Cyffrous a Dysgu Trwy Brofiad:
- Mynd ar daith dramor i ehangu eich gorwelion ac ennill profiadau amhrisiadwy.
- Ymgolli eich hun mewn gwahanol ddiwylliannau ac amgylcheddau busnes bywiog.
- Ymgysylltu â busnesau rhyngwladol, ymweld â chwmnïau enwog, a rhwydweithio ag ymarferwyr proffesiynol ledled y byd.
- Gwella cyflogadwyedd gyda sgiliau cyfathrebu trawsddiwylliannol a’r gallu i addasu.
- Adeiladu sylfaen gadarn mewn gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o reolaeth busnes.
- Archwilio llwybrau megis rheolaeth busnes neu raddau arbenigol mewn rheoli digwyddiadau, rheolaeth adnoddau dynol, neu farchnata.
- Cyfleoedd cyflogaeth mewn rheolaeth, gwasanaethau ariannol, marchnata, adwerthu, neu wasanaethau cyhoeddus.
- Anogaeth i droi syniadau da yn fusnesau llwyddiannus.
- Ystod o fathau o asesiadau wedi’u teilwra i bob pwnc.
- Asesiadau allanol dan amodau rheoledig ac asesiadau mewnol wedi’u dilysu yn erbyn safonau allanol.
- 5 TGAU graddau A*-C, yn cynnwys Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg.
- Caiff cwblhau cymhwyster Lefel 2 yn llwyddiannus mewn pwnc galwedigaethol perthnasol gyda Theilyngdod neu uwch ei dderbyn.