Diploma AAT mewn Cyfrifyddu - Lefel 3 (Cwrs Coleg)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg neu gyllid. Pwrpas y cwrs AAT hwn yw darparu’r wybodaeth a’r sgiliau arbenigol i fyfyrwyr sydd eu hangen ar gyfer symud ymlaen i gyflogaeth mewn rôl gyfrifyddu neu gyllid, neu i ddatblygu eu hastudiaethau yn y maes hwn.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas i fyfyrwyr sy’n oedolion, y rheiny sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cael seibiant, y rheiny sy’n newid gyrfa a phobl ifanc 16 - 19 oed sydd am ddatblygu eu gwybodaeth yn y maes galwedigaethol hwn. Mae’r cwrs yn agored i’r rheiny sydd yn gweithio a’r rheiny nad ydynt ar hyn o bryd mewn swydd. Hefyd, gallai’r cymhwyster hwn helpu rhywun sydd eisoes yn gweithio mewn rôl gyllid lefel mynediad i symud ymlaen yn eu gyrfa trwy gynnig datblygiad a chydnabyddiaeth ffurfiol iddynt o’u sgiliau.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy’n talu am hyfforddiant a sefyll arholiad cychwynnol - pris ar gael ar gais.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Pwrpas y cymhwyster hwn yw sicrhau bod myfyrwyr wedi’u paratoi’n dda er mwyn symud ymlaen i yrfa mewn cyfrifeg broffesiynol, cyllid neu fusnes neu i addysg bellach.
Bydd myfyrwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prosesau ariannol, gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau cyfrifyddu, cadw cyfrifon uwch a pharatoi datganiadau ariannol. Byddant hefyd yn deall yr amgylchedd busnes, materion busnes sy’n ymwneud â’r gyflogres a threth ar werth (TAW), technegau cyfrifyddu rheoli, egwyddorion moesegol ac ystyriaethau cynaladwyedd ar gyfer cyfrifwyr.
Cyflwynir y cwrs hwn gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol sy’n cyfuno gweithgareddau wyneb yn wyneb ac ar-lein mewn llif dysgu di-dor a chyflenwol.
Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda’r corff proffesiynol. Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.
Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod o dasgau cyfrifyddu cymhleth, yn cynnwys cadw cofnodion cyfrifyddu costau a pharatoi adroddiadau a ffurflenni treth. Mae’n cynnwys pedair uned orfodol:
- Ymwybyddiaeth Fusnes
- Cyfrifyddu Terfynol: Paratoi Datganiadau Ariannol
- Technegau Cyfrifyddu Rheoli
- Prosesau Treth ar gyfer Busnesau
Caiff pob un o’r pedair uned eu hasesu’n unigol mewn asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.
Bydd y sgiliau cyfrifeg a ddatblygir trwy astudio’r cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i chwilio am waith yn hyderus a/neu symud ymlaen i’r lefel ddysgu nesaf neu gallant arwain at gyflogaeth fel:
- Cynorthwyydd cyfrifon
• Goruchwyliwr cyfrifon taladwy a threuliau
• Cyfrifydd cynorthwyol
• Archwiliwr dan hyfforddiant
• Rheolwr credyd • Cynorthwyydd cyllid • Swyddog cyllid • Goruchwyliwr cyflogres • Uwch Geidwad cyfrifon • Cynorthwyydd treth.
Mae cwblhau’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gofrestru fel ceidwad cyfrifon cymwysedig, neu symud ymlaen i’r cymhwyster Diploma mewn Cyfrifyddu Proffesiynol (lefel 4).
Mae’r asesiadau yn y cymhwyster hwn ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser.
Bydd ystod o fathau o gwestiynau a fformatau yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr yn yr asesiad. Gall y rhain gynnwys cwestiynau amlddewis, ymatebion ysgrifenedig estynedig, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy’n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr.
Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio Diploma AAT mewn Cyfrifyddu. Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a Mathemateg. Mae cyfrifwyr yn gweithio wrth wraidd busnes a disgwylir iddynt allu cyfathrebu gwybodaeth yn glir ac yn briodol i gynulleidfa benodol. Mae AAT yn argymell bod myfyrwyr yn defnyddio gwiriad sgiliau AAT trwy aatskillcheck.org i sicrhau eu bod yn barod i gychwyn ar gymhwyster penodol.
Mae’n bosibl y gall myfyrwyr sydd ag unrhyw gymwysterau ysgol neu goleg perthnasol, gradd neu rywfaint o brofiad cyfrifyddu, mewn amgylchiadau penodol, hawlio eithriadau.
Mae angen i fyfyrwyr ddarparu eu deunydd ysgrifennu eu hunain a gwerslyfrau (os oes angen). Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Cofrestru AAT - £228
Ffioedd Arholiad/Asesu AAT - £244