Diploma Lefel 5 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Lefel 5)
- Campws Pibwrlwyd
Anelir y cwrs hwn at benaethiaid adran newydd neu uchelgeisiol, rheolwyr cyffredinol a rheolwyr canol ac mae’n ddelfrydol os ydych am ddatblygu gwybodaeth fusnes arbenigol a sgiliau technegol.
Fel dysgwr, byddwch yn cael sylfaen drylwyr yn eich rôl a’ch cyfrifoldebau ac yn manteisio ar y cyfle i atgyfnerthu a datblygu ymhellach y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch ar y lefel hon.
Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg. Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy’n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Gwella galluoedd rheolaeth craidd
- Datblygu gwybodaeth mewn meysydd arbenigol, fel cyllid a marchnata
- Cymryd cyfrifoldeb dros eich datblygiad eich hun fel arweinydd
- Profi y gallwch chi gael effaith fesuradwy ar eich sefydliad trwy brosiectau ac asesiad seiliedig ar y gweithle.
Mae yna 7 uned i’w cwblhau:
- Deall y Rôl Rheolaeth i Wella Perfformiad Rheolaeth
- Rheoli eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus Eich Hun
- Dod yn Arweinydd Effeithiol
- Datblygu Meddwl Beirniadol
- Cyflwyno Achos Ariannol
- Rheoli Gwelliant
- Arwain Arloesedd a Newid
Gellir addasu/teilwra unedau’r rhaglen i weddu i anghenion unigolion a chyflogwyr.
Yr hyn byddwch chi’n ei gyflawni:
- Ennill y wybodaeth i gefnogi eich rôl rheolaeth ganol
- Cael rheolaeth ar eich datblygiad personol
- Deall newid yn y gweithle
- Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a chynhyrchiol yn y gwaith
- Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
Buddion i’r cyflogwr:
- Adeiladu arferion rheolaeth cynaliadwy sy’n gweithio ar gyfer y tymor hir
- Meincnodi gwybodaeth a galluoedd rheolwyr
- Annog staff i reoli eu dilyniant gyrfaol yn rhagweithiol ar gyfer cynllunio olyniaeth ac i ddatblygu’r ffrwd ddoniau
Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.