Skip page header and navigation

Dyfarniad ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Lefel 5)

  • Campws Pibwrlwyd
4 mis (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Os ydych chi’n gweithio mewn rheolaeth ganol a hoffech ddatblygu eich sgiliau a’ch profiad a gwella perfformiad i baratoi ar gyfer cyfrifoldebau gwaith uwch reolwr, yna’r cwrs hwn fyddai’r llwybr iawn i chi.

Dysgwch sut i ddefnyddio technegau rheoli craidd i ysgogi gwell canlyniadau a datblygu eich gallu i arwain, cymell ac ysbrydoli.   

Ewch ati i ddarparu arweinyddiaeth strategol yn ogystal â rheoli o ddydd i ddydd a meincnodi eich sgiliau rheoli a chodi eich proffil yn eich sefydliad.

Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg. 

Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy’n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
4 mis (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Sesiynau addysgu misol gyda sesiwn diwtorial unigol.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich dull arwain a dull eich sefydliad. Byddwch yn cael cyfle i fyfyrio ar yr hyn mae arweinyddiaeth yn ei olygu i chi ac i ystyried sut i gael y gorau o’ch pobl.

Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill gan gynnwys: 

  • Diploma ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5

Dau aseiniad i’w cwblhau (tua 3000 o eiriau yr un)

  • Profiad cyfredol o arwain a rheoli
  • Meddu ar gymhwyster lefel pedwar eisoes neu fod â phrofiad diweddar o astudio ar lefel pedwar neu uwch

Cost y cwrs yw band ffioedd I (£190).

Mwy o gyrsiau Busnes, Cyllid a Rheolaeth

Chwiliwch am gyrsiau