Skip page header and navigation

Diploma Lefel 4 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Lefel 4)

  • Campws Pibwrlwyd
2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Os ydych chi’n rheolwr llinell ac eisiau adeiladu eich gyrfa reoli hyd yn oed ymhellach, yna bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o sut i fod yn arweinydd effeithiol yn eich sefydliad.   

Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.  Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy’n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau craidd mewn rheolaeth ganol.  Dysgwch am sut i gyfathrebu gweledigaeth y sefydliad yn effeithiol i’ch tîm a sut i reoli a datblygu perthnasoedd â budd-ddeiliaid allweddol.   Datblygwch eich sgiliau arwain drwy ysgogi a datblygu eich tîm hyd eithaf eu gallu. Mae’r rhaglen yn rhoi sgiliau i unigolion mewn datrys problemau, meddwl yn feirniadol, arweinyddiaeth a sgiliau cyflogadwyedd allweddol.  

Mae’r rhaglen yn cynnwys saith uned: 

  • Deall y rôl rheolaeth er mwyn gwella perfformiad rheolaeth
  • Deall a datblygu perthnasoedd yn y gweithle 
  • Rheoli a gweithredu newid yn y gweithle 
  • Deall arweinyddiaeth
  • Rheoli datblygiad personol 
  • Datblygu pobl yn y gweithle
  • Deall arfer da wrth hyfforddi yn y gweithle 
  • Gellir addasu/teilwra unedau’r rhaglen i weddu i anghenion unigolion a chyflogwyr.

Yr hyn byddwch chi’n ei gyflawni: 

  • Byddwch yn ennill y wybodaeth i gefnogi eich rôl rheolaeth ganol
  • Dysgu sut i gael rheolaeth ar eich datblygiad personol
  • Deall newid yn y gweithle
  • Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a chynhyrchiol yn y gwaith
  • Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol

Buddion i’r cyflogwr: 

  • Bydd eich cyflogwr yn cael rheolwyr canol llawn cymhelliant gyda gallu profedig i berfformio
  • Cael y fantais o weithio gyda rheolwyr sy’n gallu asesu a gwella eu datblygiad eu hunain
  • Cyflawni gwell cyfathrebu a chydweithio mewn timau

Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.