Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Gwasanaethau Cyfreithiol - Lefel 3 neu Lefel 5 (Cwrs Coleg)

  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
24 Mis

Mae’r Brentisiaeth mewn Gwasanaethau Cyfreithiol yn cyfuno profiad ymarferol gyda gwybodaeth academaidd i ddatblygu gweithwyr paragyfreithiol llwyddiannus. Mae’r rhaglen Lefel 3 yn ymestyn dros 24 mis, gan ddarparu sgiliau sylfaenol mewn systemau cyfreithiol, cyfraith camweddau, cyfraith contractau, eiddo a chyfraith cleientiaid preifat. Gan symud ymlaen i Lefel 5, mae’r brentisiaeth uwch yn cwmpasu datrys anghydfodau, cyfraith trosedd, eiddo a thrawsgludo, a mwy. A hithau’n cael ei chyflwyno gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), mae’r rhaglen ymarferol a chynhwysfawr hon yn rhoi’r sgiliau hanfodol i ddysgwyr ragori mewn rolau cyfreithiol amrywiol, gan osod sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa lewyrchus ym maes gwasanaethau cyfreithiol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
24 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r brentisiaeth hon yn cynnig dysgu ymarferol, datblygiad proffesiynol, a gwybodaeth gyfreithiol hanfodol trwy gyfuniad o addysgu ar-lein, anogaeth, a datblygiad yn y gweithle. Mae’n cwmpasu meysydd cyfreithiol allweddol a sgiliau proffesiynol, gan sicrhau bod dysgwyr wedi’u paratoi’n dda ar gyfer rolau fel Gweithiwr Paragyfreithiol, Enillwr Ffioedd Iau, Gweinyddwr Cyfreithiol, ac Ysgrifennydd Cyfreithiol. Mae’r ddwy lefel yn integreiddio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, a Llythrennedd Digidol. Wedi’i hariannu’n llawn ar gyfer ymgeiswyr cymwys, mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys ffioedd aelodaeth broffesiynol, gan gefnogi prentisiaid ar hyd eu taith ddysgu.

Mae Lefel 3 yn cynnwys:


● Systemau Cyfreithiol
● Cyfraith Camwedd

● Cyfraith Contractau
● Cyflwyniad i Eiddo a Chleientiaid Preifat
● Sgiliau Proffesiynol a Chyfreithiol

Mae Lefel 5 yn cynnwys:


● Datrys Anghydfodau
● Cyfraith Droseddol ac Ymarfer
● Eiddo a Thrawsgludo
● Sgiliau Proffesiynol a Chyfreithiol
● Teulu/Ewyllysiau/Busnes a Chyflogaeth

Mae cwblhau’r brentisiaeth Lefel 3 yn llwyddiannus yn caniatáu symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch Lefel 5. Gall graddedigion ddilyn rolau fel Gweithiwr Paragyfreithiol, Enillwr Ffioedd Iau, Gweinyddwr Cyfreithiol, neu Ysgrifennydd Cyfreithiol. Gall graddedigion Lefel 5 symud ymlaen ymhellach i Radd Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol LLB PCYDDS neu gymhwyster proffesiynol Cyfreithiwr CPQ CILEX.

Mae asesu yn cynnwys aseiniadau, arholiadau, a gwerthusiadau cymhwysedd yn seiliedig ar senarios byd go iawn. Does dim angen arholiadau traddodiadol; yn lle hynny, mae asesiadau ymarferol yn sicrhau bod dysgwyr yn dangos hyfedredd ym mhob maes gofynnol.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn, yn gyflogedig, ac yn byw yng Nghymru. Bydd cyfweliad yn asesu addasrwydd, gan sicrhau bod ymgeiswyr yn bodloni gofynion llythrennedd a rhifedd y rhaglen. Mae cymhwyster llythrennedd digidol lefel 2 yn angenrheidiol. Rhaid i’r rheiny
nad oes ganddynt raddau TGAU A-C (neu gyfwerth) gwblhau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, a Llythrennedd Digidol. Mae gweithwyr cyflogedig newydd a rhai presennol hefyd yn gymwys.

Caiff prentisiaethau yng Nghymru eu hariannu’n llawn, os ydych yn ddysgwr cymwys. Mae costau ychwanegol yn cynnwys ffioedd aelodaeth broffesiynol gorfodol, y mae’r prentis yn eu talu’n flynyddol. Gall costau dewisol ar gyfer gwerslyfrau a deunyddiau dysgu eraill fod yn berthnasol.
Rhaid bod prentisiaid yn gyflogedig ac yn cael eu cefnogi’n llawn gan eu cyflogwyr ar hyd y rhaglen. Bydd angen Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol os nad ydynt wedi'u hennill yn flaenorol.