Skip page header and navigation

Prentisiaeth Uwch - Gweinidogaeth yr Eglwys - Lefel 4 (Cwrs Prentisiaeth)

  • Caerdydd
22 Mis

Helpu pobl ifanc i Archwilio Gweinidogaeth Gristnogol mewn swydd â thâl 22 mis o hyd a chwblhau blwyddyn gyntaf Gradd mewn Diwinyddiaeth - canllaw i unigolion, eglwysi lleol, cylchdeithiau ac ardaloedd gweinidogaeth/cenhadaeth. 

A hoffech chi fod yn Brentis mewn Gweinidogaeth Gristnogol am 22 mis mewn swydd â thâl gyda Llywodraeth Cymru / Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn ariannu costau eich Hyfforddiant Academaidd Ffurfiol a Choleg Sir Gâr ac Athrofa Padarn Sant yn cyflwyno.    Coleg Sir Gâr sy’n gyfrifol am gyflwyno Sgiliau Hanfodol ac Athrofa Padarn Sant sy’n gyfrifol am gyflwyno Cenhadaeth a Gweinidogaeth Lefel 4. 

Cynlluniwyd ein rhaglen Brentisiaeth ar gyfer y rheiny sy’n archwilio galwad mewn Gweinidogaeth Gristnogol (Ficer, Caplan, Offeiriad, Bugail, Gweinidog, Swyddog Bugeiliol Ieuenctid/Plant/Teulu) yn unrhyw enwad Cristnogol yng Nghymru.  Caiff y brentisiaeth hon ei chyflwyno gan Goleg Sir Gâr ac Athrofa Padarn Sant.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
22 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â Phrentisiaeth Uwch sy’n golygu, ar ôl ei chwblhau, byddant yn cael cymhwyster Lefel 4 mewn Gweinidogaeth a Chenhadaeth a fydd yn cael ei achredu gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant.  Mewn gwirionedd, yn cwblhau blwyddyn gyntaf gradd mewn diwinyddiaeth.  Bydd y Prentis wedi’i leoli mewn eglwys leol neu ardal arall os mai’r opsiwn sy’n cael ei archwilio yw caplaniaeth. 

Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn gwneud Prentisiaeth Uwch sy’n golygu, ar ôl ei chwblhau, byddant yn cael cymhwyster Lefel 4 mewn Gweinidogaeth a Chenhadaeth Gweithle a fydd yn cael ei achredu gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant.  Mewn gwirionedd, yn cwblhau blwyddyn gyntaf gradd mewn diwinyddiaeth.  Dyma’r modiwlau o fewn y Rhaglen honno:

  • Defnyddio Athrawiaeth Gristnogol
  • Defnyddio Cenhadaeth Gristnogol
  • Defnyddio Diwinyddiaeth Ymarferol
  • Defnyddio’r Hen Destament
  • Defnyddio’r Testament Newydd
  • Myfyrio’n Ddiwinyddol mewn Cyd-destun Gweithle

Fel rhan o fframwaith y brentisiaeth rhaid i’r holl brentisiaid wneud Cymwysterau Sgiliau Hanfodol. Bydd prentisiaid sydd â TGAU gradd C neu gyfwerth mewn Rhifedd a Saesneg yn cael eu heithrio rhag cwblhau sgiliau hanfodol Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.  Mae Llythrennedd Digidol yn un o ofynion y fframwaith hwn.

Bydd y brentisiaeth a’r cymhwyster Lefel 4 sydd ynghlwm â hi yn agor sawl llwybr gyrfa:

  • Y gobaith yw y byddai nifer o’r rheiny sy’n dilyn y brentisiaeth hon yn archwilio ordeiniad o fewn eu henwad penodol yn ystod y cyfnod o 22 mis ac ar ddiwedd eu cyfnod fel prentisiaid byddent yn mynd ymlaen i gam nesaf hynny fel y nodir gan eu harferion enwadol.
  • Gall rhai fynd ymlaen i gyflogaeth lawn gyda’r rheiny oedd yn eu cyflogi fel prentisiaid, o bosib fel gweithwyr ieuenctid/plant, cynorthwywyr bugeiliol neu ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth eraill.
  • Bydd y prentis yn cymhwyso gyda chymhwyster blwyddyn gyntaf gradd. Byddant yn gallu mynd i’r Brifysgol a gwneud Lefel 5 a Lefel 6 i gwblhau gradd yn y ddwy flynedd ganlynol.
  • Er y bydd y brentisiaeth hefyd yn canolbwyntio ar ystod eang o sgiliau cymdeithasol ac academaidd, efallai bydd y prentis yn penderfynu dilyn llwybr gyrfa gwahanol gyda’r sgiliau trosglwyddadwy mae wedi’u hennill fel prentis.

Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y brentisiaeth hon.  Ond byddem yn disgwyl:

  • Mae ymddiriedaeth, uniondeb a gonestrwydd i gyd yn nodweddion a werthfawrogir gan gyflogwyr yn sector gwasanaethau’r Eglwys/Gweinidogaeth.
  • Mae gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn hanfodol oherwydd mae’n bosibl iawn y bydd cyflogeion yn canfod eu bod yn gweithio gydag oedolion a phlant sy’n agored i niwed.

Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn y sector hwn yn gofyn am o leiaf 12 mis o brofiad o Gymuned Eglwysig.

Does dim costau ychwanegol.