Tystysgrif mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol Lefel 3 (Lefel 3)
- Campws Pibwrlwyd
Mae hyfforddi a mentora yn caniatáu i chi ysbrydoli a grymuso eraill i ddatgloi eu potensial llawn, gan eu helpu i ddarganfod eu cryfderau a goresgyn heriau er mwyn cyflawni eu cyrchnodau.
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rheiny sydd am ennill gwybodaeth, sgiliau a hyder i hyfforddi neu fentora pobl yn effeithiol o fewn cyd-destun sefydliadol.
Mae hefyd yn gymhwyster delfrydol ar gyfer y rheiny sydd am gychwyn gyrfa mewn hyfforddi neu fentora.
Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg. Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy’n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gwybod beth sydd eisiau i fod yn hyfforddwr a mentor effeithiol
- Deall rôl a chyfrifoldebau hyfforddwyr a mentoriaid effeithiol
- Dysgu sut i reoli prosesau hyfforddi a mentora gan ddefnyddio modelau cydnabyddedig
- Rhoi eich sgiliau newydd ar waith trwy gyflawni sesiynau hyfforddi neu fentora dan oruchwyliaeth
- Dadansoddi eich perfformiad hyfforddi neu fentora er mwyn gwella eich gallu eich hun
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill megis:
- Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol
- Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Mae’r Cwrs Celf a Dylunio: Mynediad i Addysg Uwch yn cwmpasu cyfres o unedau sy’n rhoi cyfanswm o 60 credyd sy’n cynnwys unedau craidd ac academaidd. Mae’r unedau hyn yn orfodol.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Astudio Craidd gan gynnwys Cyfathrebu, Sgiliau Meddwl a Pharatoi Portffolio.
- Dau aseiniad
- Portffolio
- Dyddiadur Adfyfyriol
- Gofynion Mynediad
Gofynnir i chi fentora neu hyfforddi unigolyn yn y gweithle dan oruchwyliaeth er mwyn cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Band ffioedd cwrs : H