Skip page header and navigation

Tystysgrif Lefel 2 Terminoleg Feddygol A Chlywdeipio (Lefel 2)

  • Campws Y Graig
17 Wythnos

Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n dymuno symud ymlaen neu symud i mewn i amgylchedd gweinyddiaeth feddygol lle mae angen deall y defnydd mynych o derminoleg feddygol.  Bydd y cymhwyster yn paratoi’r dysgwr i weithio ym maes gweinyddiaeth feddygol gan ddysgu sgiliau mewn terminoleg feddygol a chlywdeipio.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
17 Wythnos

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Darparu Cyfleoedd i Ddatblygu eu Gwybodaeth a’u Dealltwriaeth o Derminoleg Feddygol a Chlywdeipio
  • Cyfuniad o Gyflwyniad Ar y Safle ac Ar-Lein
  • Cyflwynir gan Ddarlithwyr Cymwysedig
  • Cymhwyster a Gydnabyddir yn Genedlaethol sy’n Darparu Llwybr Dilyniant i Gyflogaeth neu Gymhwyster Lefel Uwch.
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Mae Terminoleg Feddygol yn defnyddio dull strwythurol, gan ganolbwyntio ar sut y caiff termau meddygol eu llunio o fonion, rhagddodiaid ac ôl-ddodiaid, a sut i adnabod termau o ddiffiniadau penodol.

Mae’n cwmpasu:

  • Terminoleg
  • Talfyriadau sy’n ymwneud â systemau’r corff
  • Arbenigeddau meddygol
  • Ffarmacoleg

Mae Clywdeipio yn galluogi’r dysgwr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio cyfarpar a meddalwedd clywdeipio i gynhyrchu ystod o ddogfennau meddygol arferol a phroffesiynol.

Mae’n cwmpasu:

  • Trawsgrifio dogfennau arferol sy’n cynnwys terminoleg feddygol
  • Cymhwyso technegau prosesu geiriau
  • Prawf-ddarllen gan gynnwys dulliau gwirio

Gall ymgeiswyr sy’n cyflawni’r cymhwyster hwn symud ymlaen:

  • I mewn i gyflogaeth
  • Astudio Tystysgrif lefel dau Gweinyddiaeth Feddygol a Sgiliau Cyfathrebu

Bydd asesu ar ffurf dwy dasg o dan gyfyngiadau amser - un mewn Terminoleg Feddygol ac un mewn Clywdeipio - a fydd yn cynhyrchu tystiolaeth o gyflawniad ar gyfer yr holl feini prawf asesu a’r deilliannau dysgu gofynnol.

Tystysgrifau Agored Cymru mewn:

  • Terminoleg Feddygol ar gyfer Gweinyddwyr
  • Clywdeipio Meddygol

Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn, er yr ystyrir bod dealltwriaeth dda o’r Saesneg yn fuddiol gyda ffocws arbennig ar gywirdeb sillafu, ynghyd â naill ai profiad mewn amgylchedd meddygol neu awydd i symud i’r maes hwn.

Mae ffioedd rhan-amser ym Mand Ffioedd H ynghlwm wrth y cwrs.  Does dim costau ychwanegol yn gysylltiedig â’r cymhwyster hwn.

Mwy o gyrsiau Busnes, Cyllid a Rheolaeth

Chwiliwch am gyrsiau