
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 - Diploma Estynedig
- Campws Y Graig
- Campws Aberystwyth
Mae’r cymhwyster dwy flynedd hwn yn seiliedig ar wybodaeth ac wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd am ddatblygu eu gwybodaeth am y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn golygu darparu cefnogaeth, cymorth a gofal i unigolion a all fod ag anghenion corfforol, meddyliol neu gymdeithasol. Mae’n faes eang sy’n cwmpasu rolau a lleoliadau amrywiol.
Bydd y cwrs lefel tri iechyd a gofal cymdeithasol (egwyddorion a chyd-destunau) yn darparu rhaglen astudio gynhwysfawr a heriol i chi a fydd yn datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth yng nghyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y materion cyfredol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn ogystal, bydd y cwrs yn rhannu dealltwriaeth o’r corff dynol a rhai problemau a all ddigwydd pan nad yw systemau’r corff yn gweithredu fel y’u bwriedir.
Bydd yn darparu sail gadarn ar gyfer dysgwyr sydd am symud ymlaen i addysg uwch neu i waith yn y sector gofal. Bydd gofyn i chi ymgymryd â 100 awr o ymgysylltiad â’r sector dros ddwy flynedd i’ch paratoi ar gyfer astudio pellach ar lefel gradd, neu i wella eich sgiliau a’ch cymwysterau os hoffech chwilio am waith yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cyflwynir y cwrs yn bennaf yn yr ystafell ddosbarth; fodd bynnag, bydd gofyn i chi ymgymryd â 100 awr o ymgysylltu â’r sector, gan gynnwys lleoliad gwaith, ymweliadau â’r gweithle, darlithoedd gan siaradwyr gwadd a mynychu cynadleddau a digwyddiadau allanol. Bydd yr ymgysylltiad hwn â’r sector yn rhoi profiad i chi yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol, wedi’i deilwra tuag at eich dyheadau gyrfaol yn y dyfodol.
Byddwch yn astudio’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Egwyddorion a Chyd-destunau. Mae’r cymwysterau hyn yn gyfwerth â 3 Safon Uwch.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys y canlynol:
- Rhaglen Diwtorial
- Adolygiad Cynnydd
- Datblygu Llythrennedd a Rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Sgiliau Hanfodol Cymru, WEST a datblygu’r iaith Gymraeg.
Bydd y cwrs hwn yn ymwneud â chynnwys a all fod yn sensitif a pheri gofid i rai myfyrwyr. Eir i’r afael â phynciau fel cam-drin, diogelu, iechyd meddwl a chaethiwed gyda rhai meysydd a addysgir yn cynnwys mwy o fanylion nag eraill.
Bydd y cymhwyster yn cwmpasu’r wybodaeth greiddiol, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol gan y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion ar bob cam o’r rhychwant oes
- Deall sut mae cyflyrau cyffredin yn effeithio ar y corff dynol
- Egwyddorion gofal ac ymarfer diogel o fewn gofal person-ganolog sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
- Anatomeg a ffisioleg
- Cefnogi iechyd a lles oedolion yng Nghymru
- Hybu hawliau unigolion ar bob cam o’r rhychwant oes
- Cefnogi unigolion sydd mewn perygl i gyflawni’r canlyniadau maen nhw’n dymuno eu cael
- Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
- Ymchwilio i faterion cyfoes ym maes iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
Fel rhan o’r cwrs bydd gofyn i chi fynd i leoliad gwaith. Mae hyn yn rhan annatod a gorfodol o gwblhau’r cwrs.
Mae cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn gyfwerth â thair Safon Uwch a bydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch mewn meysydd sy’n cynnwys:
- Gofal cymdeithasol
- Nyrsio
- Seicoleg
- Bydwreigiaeth
- Therapi galwedigaethol
Yn ddiweddar mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio ac i gymhwyso, er enghraifft, fel nyrsys, radiograffyddion, ffisiolegwyr, gwyddonwyr ymchwil, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, a rheolwyr gofal iechyd neu wedi mynd ymlaen i weithio fel gweithwyr cymorth gofal iechyd neu i weithio mewn gofal cymdeithasol.
Asesir y cymwysterau trwy gyfuniad o asesiadau ysgrifenedig allanol ac asesiadau nad ydynt yn arholiadau.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs Lefel 3 feddu ar:
O leiaf 5 TGAU graddau A* - C gan gynnwys Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf. Mae angen i Fathemateg fod yn radd D neu uwch.
Bydd gan ddysgwyr sy’n symud ymlaen o gwrs yng Ngholeg Sir Gâr ofynion mynediad gwahanol i gynnwys - cwblhau ac ymgysylltu’n llwyddiannus ar y rhaglen astudio gyfredol, datblygiad sgiliau profedig, lefelau presenoldeb da a bydd ganddynt eirda cadarnhaol.
- Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
- DBS Manwl - £55.50
- Iwnifform (sgrybs Coleg) - tua £15.00
- Teithiau ac ymweliadau adrannol achlysurol sy’n gysylltiedig â’r cwrs - cedwir yr holl gostau’n fach iawn lle bo modd.