Gofal Cymdeithasol Y Blynyddoedd Cynnar A Gofal Plant Lefel 1 (Cwrs Coleg)
- Campws Y Graig
- Campws Aberystwyth
Mae gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn yrfa werth chweil a boddhaus sy’n caniatáu i unigolion wneud gwahaniaeth mawr ym mywydau eraill.
Mae’r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheiny sy’n ceisio llwybr i faes iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant.
Yn ystod y cyfweliad, bydd angen i ddysgwyr nodi pa lwybr fydd eu prif ffocws.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae hwn yn gymhwyster llawn amser sy’n seiliedig yn bennaf ar weithdai, gyda ffocws ar iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant. Hefyd bydd yna brofiad ar leoliad.
Bydd y cymhwyster yn cwmpasu amrywiaeth o unedau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, sy’n cynnwys:
- Cyflwyniad i Ddatblygiad Plant a Phobl Ifanc Drwy Chwarae
- Cyflwyniad i Ffordd o Fyw Iach
- Cyflwyniad i Weithio mewn Partneriaeth ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
- Ymwybyddiaeth o Ddiogelu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
- Cyflwyniad i Ddatblygiad Plant a Phobl Ifanc
Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y canlynol:
- Rhaglen Diwtorial
- Adolygiadau Cynnydd
- Datblygu Llythrennedd a Rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
- Byddwch Actif
Bydd y cwrs hwn yn ymwneud â chynnwys a all fod yn sensitif a pheri gofid i rai myfyrwyr. Eir i’r afael â phynciau fel cam-drin, diogelu, iechyd meddwl a chaethiwed gyda rhai meysydd a addysgir yn cynnwys mwy o fanylion nag eraill.
Gallai cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus arwain at ddilyniant i gwrs lefel dau.
- Arsylwadau ar leoliad
- Asesiadau ysgrifenedig
Bydd enghreifftiau’n cynnwys traethodau, posteri, cyflwyniadau PowerPoint a ffurfiau amrywiol eraill.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Bydd angen geirda cadarnhaol ar bob ymgeisydd. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y cwrs Lefel 1 feddu ar:
O leiaf 3 TGAU graddau A - G a DBS Manwl clir.
DBS Manwl - £44
Iwnifform - y gost yn fras am hwdi £20, crys polo £12.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.