Rheolaeth Ceffylau Lefel 3 (Cwrs Coleg)
- Campws Pibwrlwyd
Rhaglen rheolaeth ceffylau lefel tri dwy flynedd yw hon wedi’i lleoli ar iard gystadlu a chanolfan asesu BHS y coleg. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn gyrfa mewn rheolaeth ceffylau. Mae’r cwrs yn anelu at ddatblygu sgiliau ymarferol y dysgwr a thanategu’r rhain ag egwyddorion theori ystod o bynciau megis iechyd ceffylau, anatomeg a maetheg, hwsmonaeth ceffylau a rheolaeth iard. Mae’r cwrs yn cynnwys lleoliad profiad gwaith gorfodol o 150 o oriau yn ogystal â gweithgareddau cyfranogiad cyflogwyr gorfodol.
Fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn adeiladu ar sgiliau hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd a darperir cyfleoedd ar gyfer gwneud TGAU mewn Saesneg a mathemateg. Yn ogystal datblygir dwyieithrwydd y dysgwr.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi i’r dysgwr y cymhwyster sydd ei angen i symud ymlaen i addysg uwch yn ogystal â darparu’r sgiliau sydd eu hangen i barhau i gyflogaeth.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs yn cynnwys astudiaethau academaidd yn yr ystafell ddosbarth a sesiynau ymarferol ar iard y coleg. Mae gan y coleg iard gystadlu gydag amrywiaeth o geffylau wedi’u gwastrodi mewn amrywiol ddisgyblaethau. Mae gan yr iard arena dan do ac arena awyr agored ynghyd ag amrywiol gyfleusterau rheoli a hyfforddi.
Fel rhan o’r cwrs, caiff y dysgwyr gyfle i redeg a chymryd rhan mewn cystadlaethau cyswllt a digyswllt a gynhelir yn y coleg.
Mae Coleg Sir Gâr yn ganolfan arholi a hyfforddi gymeradwy Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS).
Mae’r cwrs yn cynnwys ymweliadau â sefydliadau ceffylau arbenigol yn ogystal â darlithoedd ac arddangosiadau gan siaradwyr gwadd proffesiynol y diwydiant fel rhan o gyfranogiad cyflogwyr gorfodol.
Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ac yn cael profiad o ddysgu dwyieithog.
Unedau Craidd:
- Egwyddorion Iechyd a Diogelwch
- Ymgymryd â Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith yn y Diwydiannau Ar Dir a’i Adolygu Ymgymryd â Gweithrediadau Iard Stablau
- Iechyd Ceffylau
- Tac a Chyfarpar Ceffylau
- Systemau Biolegol Ceffylau
- Paratoi Ceffylau ar gyfer eu Cyflwyno
- Bwydo a Maetheg Ceffylau
- Ymddygiad a Lles Ceffylau
- Unedau Opsiynol:
- Ymarfer ceffylau neu Sgiliau ystâd
Blwyddyn 2
Unedau Craidd:
- Gweithio a hyfforddi ceffylau o’r llawr
- Egwyddorion marchogaeth
- Cyfrannu at reoli digwyddiad ceffylau
- Egwyddorion ffitrwydd ceffylau
- Rheolaeth busnes yn y sector Ar Dir
- Unedau Opsiynol:
- Marchogaeth ceffylau ar y fflat
- Marchogaeth ceffylau dros ffensys / Rheoli Prosiectau Arbenigol
- Adsefydlu Ceffylau
- Egwyddorion gwastrodi ar gyfer cystadlaethau
- Egwyddorion rheolaeth glaswelltir
Caiff myfyrwyr llwyddiannus y cyfle i fynd ymlaen i addysg uwch, er enghraifft cyrsiau gradd sylfaen llawn amser neu ran-amser, neu i gamu i yrfaoedd megis rheolaeth iard, gwaith gre, y diwydiant rasio neu wasanaethau cynghori.
Mae’r cwrs diploma estynedig cario pwyntiau UCAS, gan alluogi’r dysgwr i wneud cais am gyrsiau addysg uwch.
Asesiad synoptig ac aseiniadau unedau unigol: Cânt eu gosod yn allanol, eu marcio’n fewnol a’u cymedroli’n allanol.
Arholiad theori diwedd blwyddyn: Caiff ei osod yn allanol a’i farcio’n allanol a gellir ei sefyll naill ai ar-lein neu fel papur ysgrifenedig.
Dyddiadur lleoliad gwaith a gaiff ei farcio’n fewnol a’i gymedroli’n allanol.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Pedwar TGAU A*- C (gan gynnwys mathemateg, Saesneg neu Gymraeg) neu gymhwyster lefel dau mewn pwnc perthnasol i lefel teilyngdod ochr yn ochr â chyfweliad llwyddiannus ac o leiaf 85% o ran presenoldeb.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Yn ychwanegol, mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu eu cyfarpar marchogaeth eu hunain, gan gynnwys bŵts marchogaeth addas, het sy’n bodloni safonau cyfredol y diwydiant a menig. Mae angen i ddysgwyr ar y llwybr nad yw’n cynnwys marchogaeth gael bŵts iard addas ar gyfer gweithio o amgylch y ceffylau a chyfarpar ar yr iard. Mae cymorth ariannol ar gael i ddysgwyr sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer cymorth.