Gofal Anifeiliaid - Diploma Lefel Mynediad (Cwrs Coleg)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r diploma gofal anifeiliaid yn gwrs llawn amser ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant anifeiliaid.
Ar y cwrs hwn byddwch yn ennill gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol hefyd o bopeth sy’n ymwneud â gweithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid.
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn eich galluogi i symud ymlaen i’r cwrs rheolaeth anifeiliaid lefel 3 neu i gyfleoedd cyflogaeth.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Byddwch yn gweithio’n agos gyda nifer o wahanol diwtoriaid cwrs trwy gydol eich wythnos goleg. Disgwylir i chi fynychu’r coleg 3 diwrnod yr wythnos a chwblhau’r 60 o oriau profiad gwaith ar eich diwrnodau profiad gwaith neilltuedig ar eich amserlen ar gyfer y coleg. Mae’r cwrs yn gymysgedd o ddysgu seiliedig ar theori a gwaith ymarferol ill dau ac asesiadau. Byddwch yn ennill profiad ymarferol gydag amrywiaeth eang o anifeiliaid ar y safle, gan gynnwys adar, geifr, ymlusgiaid, moch cwta, cwningod, pysgod a cheffylau.
Byddwch yn ymgymryd ag ymweliadau i wahanol leoedd i gyfoethogi eich profiad o ddysgu. Mae’r coleg hefyd yn cynnig y cyfle i chi ailsefyll eich TGAU mathemateg a saesneg.
Mae’r modiwlau ar y cymhwyster hwn yn cynnwys y canlynol:
- Cynnal Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Ymgymryd â Bwydo Anifeiliaid yn Ymarferol
- Cynnal Llety Anifail
- Ymgymryd â Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith yn y Diwydiannau Ar Dir
- Deall Egwyddorion Sylfaenol Bioleg Anifeiliaid
- Cyfrannu at Ofal Anifeiliaid Egsotig
- Cyflwyniad i Ofalu am Bysgod Addurnol
- Sesiynau Dysgu Ymarferol
Byddwch yn cael y cyfle i ymgymryd â datblygu sgiliau mewn Saesneg neu Fathemateg ar lwybr i gyflawni cymhwyster TGAU.
Mae dilyniant o’r cymhwyster hwn yn ofyniad mynediad ar gyfer y cyrsiau rheolaeth anifeiliaid lefel tri sy’n rhedeg yn y coleg. Bydd hefyd yn eich galluogi i ddilyn llwybrau cyflogaeth y gellid dod o hyd iddynt o’ch lleoliad profiad gwaith neu ddiwydiannau a chyfleoedd ar dir eraill.
Asesiadau gwaith cwrs parhaus fydd yn cynnwys tasgau ysgrifenedig a phrosiectau, profion byr ac asesiadau ymarferol a wneir yn y ganolfan gofal anifeiliaid sydd ar y safle. Bydd eich asesiadau ymarferol yn digwydd gyda nifer lluosog o wahanol rywogaethau naill ai yn yr ystafell anifeiliaid egsotig, yr ystafell mamaliaid bach, ystafell y pysgod, y gwningar neu’r iard geffylau.
Bydd myfyrwyr sy’n symud ymlaen angen cymhwyster lefel 1 mewn gofal anifeiliaid ar radd pas a chofnod presenoldeb o 70% o leiaf. Hefyd bydd gofyn i chi gwblhau cyfweliad yn llwyddiannus.
Fel arall, 3 TGAU ar radd A-D i gynnwys naill ai Saesneg, Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg.
Gan y bydd hi’n ofynnol i chi gwblhau 60 awr o brofiad gwaith ar gyfer y cwrs bydd angen i chi sicrhau lleoliad gwaith.
Gofynnir yn ogystal i fyfyrwyr wneud prawf diagnostig ar eu sgiliau llythrennedd a rhifedd gyda chymorth dysgu ar gael.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun ac mae’n bosibl hefyd y bydd gofyn i chi dalu am ymweliadau addysgol y mae’r adran yn eu trefnu.
Mae Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yn orfodol er mwyn i chi ymgymryd ag elfennau ymarferol y cwrs. Bydd rhaid i chi ddarparu oferôls, top sgryb, welingtons neu fŵts, siaced wrth-ddŵr ac o bosibl trowsus gwrth-ddŵr.