Skip page header and navigation

Lefel 3 Gofal Anifeiliaid (Cwrs Coleg, Lefel 3)

  • Campws Aberystwyth
2 Flwyddyn

Gall gweithio gydag anifeiliaid fod yn ddewis gyrfaol gwerth chweil i unigolion sy’n frwdfrydig dros anifeiliaid a’u lles. Mae yna gyfleoedd gwaith amrywiol ar gael yn y maes hwn, yn amrywio o ofal ymarferol anifeiliaid i ymchwil, gwaith elusennol a chadwraeth.

Cynigir y cymhwyster hwn fel cwrs lefel tri llawn amser sy’n gyfwerth â lefel Safon Uwch ar gyfer myfyrwyr dros 16 oed. Mae hefyd yn gymhwyster carreg sarn ar y ffordd i’r brifysgol.

Bydd y cwrs yn darparu sgiliau ymarferol technegol arbennig a gwybodaeth i chi i weithio yn y sector gofal anifeiliaid naill ai mewn capasiti ymarferol neu o fewn y diwydiant ehangach.

Mae’r cwrs dwy flynedd yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau o ofynnir gan gyflogwyr yn y diwydiant rheolaeth anifeiliaid ac amgylcheddol ac maent yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel gradd yn y pynciau yma neu bynciau cysylltiedig.

Ar ddiwedd blwyddyn un byddwch yn cwblhau’r cymhwyster Diploma Technegol Uwch lefel tri mewn Rheolaeth Anifeiliaid. Ar ddiwedd eich ail flwyddyn, byddwch yn cwblhau’r Diploma Estynedig Technegol Uwch Lefel Tri mewn Rheolaeth Anifeiliaid.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
2 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ddysgu sut i adeiladu ar eu sgiliau o ran gweithio gydag anifeiliaid.  Bydd dysgwyr yn dysgu sut i weithio’n ddiogel o amgylch anifeiliaid a bod yn gyfrifol am gynllunio a chyflawni tasgau hwsmonaeth, iechyd, trin a phorthi anifeiliaid.    Byddwch hefyd yn dysgu am ymddygiad anifeiliaid, bridiau anifeiliaid, lles a sgiliau busnes.

Yn ogystal, caiff dysgwyr y cyfle i ennill profiad ymarferol gydag ystod o anifeiliaid yn cynnwys cŵn, cwningod, moch cwta, ceffylau ac amrywiaeth o rywogaethau anifeiliaid egsotig. Mae’n ofynnol hefyd i fyfyrwyr ymgymryd â phrofiad gwaith (150 awr) sy’n orfodol ym mlwyddyn un y cwrs a’i nod yw datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd.

Gallai’r modiwlau gynnwys y canlynol:

  • Egwyddorion Iechyd a Diogelwch
  • Ymgymryd â, ac Adolygu, Profiad Cysylltiedig â Gwaith yn y Diwydiannau Ar Dir
  • Iechyd a Hwsmonaeth Anifeiliaid
  • Bwydo a Maetheg Anifeiliaid
  • Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid
  • Systemau Biolegol Anifeiliaid
  • Lles a Bridio Anifeiliaid
  • Hyfforddi Anifeiliaid
  • Adferiad Anifeiliaid Bach
  • Gwasanaethau Perthynol i Anifeiliaid Anwes
  • Cadwraeth bywyd gwyllt ac ecoleg
  • Rheolaeth ac adsefydlu bywyd gwyllt
  • Iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid egsotig
  • Dylunio a rheolaeth siop anifeiliaid anwes
  • Nyrsio anifeiliaid
  • Hwsmonaeth a lles anifeiliaid fferm
  • Rheolaeth cyndai a chathdai
  • Ymgymryd â sgiliau ystâd
  • Rheolaeth busnes yn y sector ar dir
  • Ymgymryd â phrosiect arbenigol yn y sector ar dir

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallai dysgwyr barhau i astudio i addysg uwch neu symud ymlaen i gyflogaeth yn y diwydiant.  Gallai rolau gynnwys:

  • Cynorthwyydd canolfan anifeiliaid
  • Gweithiwr/goruchwyliwr cyndai a chathdai
  • Cynorthwyydd gofal ysbyty anifeiliaid
  • Prentis mewn busnes gofal anifeiliaid 
  • Cynorthwyydd siop anifeiliaid anwes

Asesir trwy -

  • Un aseiniad a osodir yn allanol, a’i gymedroli’n allanol (synopteg)
  • Un arholiad sy’n cael ei osod yn allanol, a’i farcio’n allanol, a’i sefyll o dan amodau arholiad (ar-lein)
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Profiad Gwaith
  • Asesiadau unedau opsiynol yn ôl y gofyn
  • Iechyd a Diogelwch - arholiad theori
  • Bioleg - Arholiad Theori

Pump TGAU graddau A*-C, sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg. Neu fod wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel dau yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch. Rhaid i ymgeiswyr gael cyfweliad llwyddiannus.

Bydd gofyn i fyfyrwyr feddu ar gyfarpar digonol ar gyfer gweithio y tu allan ym mhob tywydd.

Bydd gofyn hefyd i fyfyrwyr feddu ar y cyfarpar arferol ar gyfer gweithio mewn amgylchedd ystafell ddosbarth.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Mwy o gyrsiau Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau

Chwiliwch am gyrsiau