Skip page header and navigation

Cwrs byr Hyfforddi ac Asesu Gofal Cam 1 BHS Cymdeithas Ceffylau Prydain (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion, Lefel 1)

  • Campws Pibwrlwyd
10 wythnos

Cynlluniwyd y cwrs hwn i baratoi ac asesu dysgwyr ar gyfer arholiad ‘Llwybr Gwastrawd’ Gofal Cam 1 BHS.  Mae’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd am gychwyn gyrfa gyda cheffylau neu sy’n dymuno gwella gwybodaeth a sgiliau wrth weithio gyda cheffylau.

Bydd y cwrs yn eich helpu i wella a datblygu eich gwybodaeth ymarferol a’ch profiad wrth weithio’n ddiogel ar iard stablau.    Bydd yn datblygu sgiliau mewn gofalu am les ceffylau a’u rheoli’n ddyddiol, gan gynnwys ymddygiad ac iechyd ceffylau, gwastrodi a defnyddio cyfarpar a thac yn addas.

Cynhelir y cwrs a’r asesiad yng Nghanolfan Hyfforddi Gymeradwy BHS Coleg Sir Gâr. Caiff y sesiynau ymarferol eu cyflwyno ar yr iard a bydd y cwrs hefyd yn cynnwys modiwlau theori fel dysgu dan arweiniad ar-lein.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
10 wythnos

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Dysgu dan arweiniad ar-lein, mynediad i adnoddau a chefnogaeth
  • Cwblhau eich Cofnod Sgiliau
  • Bydd y cwrs yn para am 10 wythnos gydag un sesiwn 2 awr yr wythnos yn y coleg. Bydd y 10fed wythnos yn cynnwys 2 ddiwrnod - y sesiwn hyfforddi 2 awr olaf ac yna asesiad gofal Cam 1 BHS y diwrnod canlynol.
  • Amgylchedd dysgu cefnogol
  • Gwybod am y cyfrifoldebau wrth weithio ar yr iard stablau
  • Gallu cynnal a chadw stabl lân
  • Gallu cyflawni tasgau gwastrodi arferol
  • Gallu disgrifio ceffylau a gwybod am ymddygiad ac iechyd ceffylau
  • Gallu defnyddio rygiau’n briodol
  • Gallu rhoi tac a thynnu tac yn rhydd
  • Gallu trafod ceffyl
  • Gallu rhoi bwyd a dŵr i geffyl
  • Cymwys i symud ymlaen i Wastrawd Sylfaen Cam 2 BHS yn amodol ar gyflawni arholiad Gofal Cam 1 BHS yn llwyddiannus
  • Cam 1 BHS yw’r cam cyntaf i ddod yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant trwy ddilyn Llwybr Proffesiynol BHS
  • Bydd Cam 1 BHS yn ategu eich gyrfa, boed yn anogwr, gwastrawd, marchog neu hyfforddwr
  • Mae yna alw cynyddol am bobl sydd â sgiliau ymarferol da i weithio mewn iardiau stablau, gwaith gre a rasio, ymysg disgyblaethau a meysydd eraill.

Asesiad Gofal cam 1 BHS

Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed ac yn meddu ar aelodaeth Aur gyfredol y BHS

  • Ffi’r cwrs ar gyfer y cwrs byr hwn yw £310
  • Mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu eu cyfarpar eu hunain, gan gynnwys bŵts iard addas, het i safonau cyfredol y diwydiant a menig ar gyfer gweithio o gwmpas y ceffylau a’r cyfarpar.