Cwrs byr Hyfforddi ac Asesu Gofal Cam 3 BHS Cymdeithas Ceffylau Prydain (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion, Lefel 3)
- Campws Pibwrlwyd
Cynlluniwyd y cwrs hwn i baratoi ac asesu dysgwyr ar gyfer arholiad ‘Llwybr Gwastrawd’ Gofal Cam 3 BHS. Mae’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd am symud ymlaen fel Gwastrawd Cam 3 annibynnol, neu weithio tuag at gymhwyster hyfforddwr Cam 3
Bydd y cwrs yn eich helpu i wella gwybodaeth a dealltwriaeth am ofal a rheolaeth ceffylau, mewn iard stablau ac mewn amgylchedd ehangach hefyd.
Bydd yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn ymddygiad ceffylau, ffisioleg, mesur arwyddion iechyd hanfodol, cyflyrau cyffredin a gofynion maethol y ceffyl.
Cynhelir y cwrs a’r asesiad yng Nghanolfan Hyfforddi Gymeradwy BHS Coleg Sir Gâr. Caiff y sesiynau ymarferol eu cyflwyno ar yr iard a bydd y cwrs hefyd yn cynnwys modiwlau theori fel dysgu dan arweiniad ar-lein.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Dysgu dan arweiniad ar-lein, mynediad i adnoddau a chefnogaeth
- Cwblhau eich Cofnod Sgiliau
- Bydd y cwrs yn para am 10 wythnos gydag un sesiwn 2 awr yr wythnos yn y coleg. Bydd y 10fed wythnos yn cynnwys 2 ddiwrnod - y sesiwn hyfforddi 2 awr olaf ac yna asesiad gofal Cam 3 BHS y diwrnod canlynol.
- Amgylchedd dysgu cefnogol
- Deall rolau, hawliau a chyfrifoldebau Gwastrawd
- Gallu defnyddio cyfarpar ar gyfer gwaith tir gwastad a neidio
- Gallu defnyddio greoedd
- Deall defnyddio genfâu
- Deall gofynion maethol ceffyl
- Deall sut i wella ffitrwydd ceffyl
- Deall anatomeg a ffisioleg ceffylau
- Gallu rheoli iechyd ceffyl
- Deall ymddygiad annymunol ceffyl
- Deall sut i reoli ardal troi allan
- Gallu asesu cydffurfiad ceffyl
- Cymwys i symud ymlaen i Uwch Reolwr Iard Cam 4 BHS yn amodol ar gyflawni asesiad Gofal Cam 3 BHS yn llwyddiannus
- Mae Cam 3 BHS yn ffurfio rhan o’r llwybr i ddod yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant trwy ddilyn Llwybr Proffesiynol BHS
- Bydd Gwastrawd Cam 3 BHS yn rhoi’r sgiliau i chi weithio yn y diwydiant, ac mae’n dangos eich bod yn barod i gymryd mwy o gyfrifoldeb gyda dealltwriaeth o reolaeth busnes iard.
- Mae yna alw cynyddol am bobl sydd â sgiliau ymarferol da i weithio mewn iardiau stablau, gwaith gre a rasio, ymysg disgyblaethau a meysydd eraill.
Asesiad Gofal cam 3 BHS
Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf ac yn meddu ar aelodaeth Aur gyfredol y BHS
Mae angen cefndir addas a pherthnasol ym maes ceffylau a phrofiad o weithio gyda cheffylau a’u trafod ac mae’n bosibl y gofynnir am eirda gan berson â chymwysterau neu brofiad addas.
Rhaid bod dysgwyr wedi cyflawni asesiad Gofal Cam 2 BHS yn llwyddiannus er mwyn dilyn y cwrs hwn gyda’r asesiad Cam 3 ar y diwedd a rhaid i ymgeiswyr allu darparu tystiolaeth o’r Dystysgrif Cam 2.
- Mae ffi o £490 ar gyfer y cwrs
- Mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu eu cyfarpar eu hunain, gan gynnwys bŵts iard addas, het i safonau cyfredol y diwydiant a menig ar gyfer gweithio o gwmpas y ceffylau a’r cyfarpar.