Skip page header and navigation

Rheolaeth Anifeiliaid Lefel 3 (Cwrs Coleg)

  • Campws Pibwrlwyd
  • Campws Aberystwyth
2 Blynedd

Mae’r cwrs rheolaeth anifeiliaid hwn yn rhaglen lefel tri lawn-amser sy’n cynnig ystod o sgiliau cyffrous a chyfleoedd dysgu i’r rheiny sy’n frwdfrydig ynghylch anifeiliaid.

Mae’r cwrs dwy flynedd o hyd yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sy’n ofynnol gan gyflogwyr yn y diwydiannau rheolaeth anifeiliaid ac amgylcheddol sy’n galluogi dysgwyr i symud ymlaen i gyflogaeth neu gyrsiau lefel gradd yn y pynciau hyn neu bynciau cysylltiedig.

Yn ogystal, mae angen 150 awr o brofiad gwaith o fewn y flwyddyn gyntaf o astudio er mwyn helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r diwydiant ac i fod o fudd i’r rheiny sy’n gwneud cais i’r brifysgol neu sy’n ymgeisio am waith. Disgwylir i fyfyrwyr ddod o hyd i leoliad a’i drefnu eu hunain, o fewn y sector yr hoffent weithio ynddo.  

Ar ddiwedd blwyddyn un, bydd dysgwyr yn cwblhau’r cymhwyster diploma technegol uwch lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid. Mae angen cwblhau blwyddyn un yn llwyddiannus er mwyn symud ymlaen i flwyddyn dau. 

Ar ddiwedd yr ail flwyddyn bydd dysgwyr yn cwblhau’r diploma estynedig technegol uwch lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
2 Blynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Mae myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol gydag ystod o rywogaethau anifeiliaid anwes, ceffylau, da byw ac anifeiliaid egsotig ar y campws ac oddi arno. 
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau a gweithdai’n cynnwys cyflogwyr sy’n cael eu trefnu fel rhan o’r cwrs ac sy’n ymwneud yn benodol â modiwlau’r cwrs. 
  • Mae profiad gwaith (150 awr) yn orfodol ym mlwyddyn un y cwrs a’i nod yw datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd 
  • Mae digonedd o fynediad i wasanaethau cymorth dysgu

Bydd myfyrwyr yn astudio nifer o unedau gorfodol dros ddwy flynedd ochr yn ochr ag unedau opsiynol a fydd yn cael eu dewis gan y tîm cyflwyno ar sail y staff a’r adnoddau sydd ar gael.

  • Iechyd a diogelwch
  • Profiad gwaith yn y diwydiannau ar dir
  • Iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid
  • Bwydo a maetheg anifeiliaid
  • Ymddygiad a chyfathrebu anifeiliaid
  • Systemau biolegol anifeiliaid
  • Lles a bridio anifeiliaid
  • Cadwraeth bywyd gwyllt ac ecoleg
  • Rheolaeth ac adsefydlu bywyd gwyllt
  • Iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid egsotig
  • Dylunio a rheolaeth siop anifeiliaid anwes
  • Hyfforddi anifeiliaid
  • Nyrsio anifeiliaid
  • Lles anifeiliaid dyfrol a datblygu bridiau
  • Iechyd a Hwsmonaeth Adar
  • Hwsmonaeth a lles anifeiliaid fferm
  • Gwasanaethau perthynol i anifeiliaid anwes
  • Adsefydlu anifeiliaid bach
  • Rheolaeth cyndai a chathdai
  • Ymgymryd â sgiliau ystâd
  • Rheolaeth busnes yn y sector ar dir
  • Ymgymryd â phrosiect arbenigol yn y sector ar dir

Ar gwblhau ail flwyddyn y diploma estynedig technegol uwch lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid (1080) gallech symud ymlaen naill ai i gyflogaeth yn y sector ar dir neu i addysg uwch. 

Mae enghreifftiau o lwybrau gyrfaol yn cynnwys rheolaeth cyndai a chathdai, twtio cŵn, lles anifeiliaid, ecoleg a gwaith cadwraeth, cynorthwywyr nyrsio anifeiliaid, elusennau anifeiliaid, bridio anifeiliaid arbenigol, technegydd anifeiliaid, gwaith achub ac adsefydlu anifeiliaid. 

Mae enghreifftiau o opsiynau addysg uwch yn cynnwys BSc (anrh) mewn ymddygiad a lles anifeiliaid*, sŵoleg, nyrsio milfeddygol, cadwraeth, amaethyddiaeth*, bioleg anifeiliaid, ymddygiad a hyfforddiant anifeiliaid.  

* Ar gael yng Ngholeg Sir Gâr

Mae asesu’r cwrs yn cynnwys arholiadau ffurfiol a osodir yn allanol, asesiadau ysgrifenedig (synoptig) ac asesiadau ymarferol gyda’r nod o brofi gwybodaeth a sgiliau ymarferol.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Mae angen i bob ymgeisydd gael o leiaf pum TGAU graddau A* - C gan gynnwys mathemateg a Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) ac yn ddelfrydol, bioleg. 

Neu byddwch wedi ennill gradd teilyngdod/rhagoriaeth mewn cymhwyster lefel dau perthnasol ynghyd â dau TGAU graddau A* i C mewn mathemateg a Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) Byddwch hefyd angen o leiaf 85% o ran presenoldeb a chyfweliad llwyddiannus.

Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg.  Fodd bynnag bydd disgwyl i chi hefyd brynu dillad penodol ar gyfer sesiynau ymarferol sef oferôls, sgrybs, trowsus gwrth-ddŵr a welingtons (yn ddelfrydol gyda blaenau dur). Ni ddylai cost y cyfarpar fod yn fwy na £150 a gellir trafod hyn yn y cyfweliad.

Mae cyfle i chi brynu hwdis, topiau a chotiau gyda logo’r coleg ar ddechrau’r flwyddyn academaidd sydd yn opsiynol.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.