Lefel 2 Gofal Anifeiliaid (Cwrs Coleg, Lefel 2)
- Campws Aberystwyth
Gall gweithio gydag anifeiliaid fod yn ddewis gyrfaol gwerth chweil i unigolion sy’n frwdfrydig dros anifeiliaid a’u lles. Mae yna gyfleoedd gwaith amrywiol ar gael yn y maes hwn, yn amrywio o ofal ymarferol anifeiliaid i ymchwil, gwaith elusennol a chadwraeth.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unrhyw un sydd â brwdfrydedd am anifeiliaid ac sy’n bwriadu dechrau gyrfa o fewn y diwydiannau gofal anifeiliaid. Mae yna lawer o fusnesau a chyfleoedd amrywiol yn y sector megis gweithio mewn gwarchodfeydd anifeiliaid, siopau anifeiliaid anwes, elusennau lles a phractisau milfeddygol. Gall gweithio gydag anifeiliaid fod yn yrfa hynod werth chweil. Nod y cwrs hwn yw dysgu’r sgiliau a’r wybodaeth mewn gofynion hwsmonaeth a gofal a fyddai’n eich cefnogi i naill ai ennill cyflogaeth yn y diwydiant neu symud ymlaen i addysg bellach o fewn y sector.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd myfyrwyr yn ennill y wybodaeth a’r sgiliau trwy wersi theori a fydd yn eu galluogi i fynd i’r afael yn hyderus â heriau newydd gyda damcaniaethau a chysyniadau wedi eu hymgorffori. Bydd myfyrwyr yn ennill profiad o weithio mewn lleoliad ymarferol gan ddysgu sut i ofalu am amrywiaeth o anifeiliaid mewn dau sefydliad ymarferol gwahanol gan gynnwys Wild Animal Kingdom Y Borth ac iard Geffylau’r Brifysgol yn Lluest.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid gan gynnwys cwningod, moch cwta, cŵn, geifr a cheffylau. Mae’r coleg yn gweithio’n agos gyda busnesau lleol i ennill profiad gwerthfawr i fyfyrwyr a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i gyflogaeth yn ddiweddarach. Mae yna hefyd nifer o ymweliadau addysgol bob blwyddyn sy’n galluogi myfyrwyr i gael cipolwg gwerthfawr ar wahanol gyfleoedd cyflogaeth.
- Cynnal iechyd a lles anifeiliaid
- Bwydo a lletya anifeiliaid
- Ymddygiad a thrin anifeiliaid
- Gweithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid
- Iechyd a diogelwch ar gyfer y diwydiannau ar dir
- Egwyddorion bioleg anifeiliaid
- Rhywogaethau bywyd gwyllt Prydain, cynefinoedd ac adfer
- Gofalu am geffylau
Mae’r cwrs yn dystiolaeth o ddatblygu sgiliau ar gyfer gweithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid. Ar gwblhau’r cwrs hwn, gall myfyrwyr symud ymlaen i gyflogaeth neu gymhwyster technegol lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid. Mae cyfleoedd gwaith yn cynnwys gweithwyr gofal anifeiliaid dan hyfforddiant mewn siopau anifeiliaid anwes, stablau, sŵau, cyndai a chathdai achub.
Asesir drwy asesiadau Ysgrifenedig, profion yn y dosbarth, asesiadau synoptig ymarferol ac arholiadau a osodir yn allanol
4 TGAU graddau A* - D gyda 2 radd C, un naill ai’n Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.
Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Bydd gofyn i fyfyrwyr feddu ar gyfarpar digonol ar gyfer gweithio y tu allan ym mhob tywydd.
Bydd gofyn hefyd i fyfyrwyr feddu ar y cyfarpar arferol ar gyfer gweithio mewn amgylchedd ystafell ddosbarth.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol