Skip page header and navigation

Diploma Lefel 2 i Gynorthwywyr Gofal Milfeddygol (Cwrs Coleg)

  • Campws Pibwrlwyd
Blwyddyn

Dyma’r cymhwyster delfrydol ar gyfer y rheiny sy’n dymuno mynd i weithio mewn practis milfeddygol fel Cynorthwyydd Gofal Milfeddygol (VCA). Mae VCAs yn rhoi gofal sylfaenol i anifeiliaid dan gyfarwyddyd a/neu oruchwyliaeth milfeddyg neu nyrs filfeddygol. 

At ddiben y cymhwyster hwn, mae darparwyr gwasanaethau gofal milfeddygol yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu, i bractis milfeddygol barn gyntaf, practis milfeddygol ail farn neu atgyfeirio, ysbytai milfeddygol, adrannau milfeddygol mewn sefydliadau lles anifeiliaid ac ysgolion milfeddygol. Ffi’r Cwrs Band N

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
Blwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Unedau astudio:

  • Egwyddorion ac arferion trafod a gofalu am anifeiliaid yn yr amgylchedd milfeddygol
  • Egwyddorion ac arferion cynorthwyo gyda gofal yn yr amgylchedd milfeddygol
  • Egwyddorion ac arferion dyletswyddau gweinyddol yn yr amgylchedd gofal milfeddygol

Yn dilyn cwblhau’r Diploma Lefel 2 i Gynorthwywyr Gofal Milfeddygol yn llwyddiannus, mae gan fyfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau i roi gofal i anifeiliaid yn lleoliad y practis milfeddygol dan gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth Milfeddyg neu Nyrs Filfeddygol Gofrestredig.

Ar gwblhau, mae’n bosibl y gall myfyrwyr symud ymlaen i fod yn nyrs filfeddygol dan hyfforddiant, yn amodol ar fodloni gofynion cofrestru a osodir gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon ar gyfer Nyrsys Milfeddygol dan Hyfforddiant.  
Gall cyfleoedd ar gyfer dilyniant gynnwys:

  • Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Anifeiliaid Bach
  • Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Anifeiliaid Anwes)
  • Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Ceffylau
  • Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Ceffylau)
  • Prentisiaeth mewn Nyrsio Milfeddygol Prentisiaeth mewn Gofal Anifeiliaid
  • Diploma Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid.

Cynlluniwyd y rhaglen i roi cymhwysedd ymarferol a gwybodaeth greiddiol sy’n berthnasol i rôl rhoddwr gofal milfeddygol mewn practis milfeddygol modern tra’n cynnwys sgiliau a gwybodaeth ychwanegol sy’n mynd y tu hwnt i gwmpas y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.

Bydd myfyrwyr yn mynychu’r coleg ar 1 diwrnod yr wythnos. Rhaid i fyfyrwyr hefyd gwblhau o leiaf 600 awr o fewn practis milfeddygol. Gall hyn fod fel cyflogaeth â thâl neu leoliad gwaith di-dâl.

Caiff modiwlau eu hasesu trwy aseiniadau. Mae pob aseiniad yn cynnwys:

  • Cyfres o restrau gwirio marcio ymarferol ac astudiaethau achos sy’n asesu elfennau cymhwysedd y cymhwyster a dylid eu cwblhau a’u cadw mewn portffolio o dystiolaeth
  • Nifer o dasgau ysgrifenedig sy’n asesu elfennau gwybodaeth y cymhwyster megis adroddiadau, dalennau, taflenni, astudiaethau achos, profion ysgrifenedig, posteri, neu gyflwyniadau.

Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Mae ffi’r cwrs ar gael ar ofyn.

Lleoliad â thâl neu ddi-dâl mewn practis milfeddygol am 2-3 diwrnod yr wythnos o leiaf. Rhaid i’r practis milfeddygol ddarparu mentor/goruchwyliwr yn y gweithle i’r myfyriwr, naill ai Nyrs Filfeddygol neu Filfeddyg cymwysedig neu rywun sydd â phrofiad sylweddol a chyfoes o fewn milfeddygaeth. 

Does dim gofynion mynediad academaidd ffurfiol i ddysgwyr sy’n ymgymryd â’r rhaglen hon.