Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Nyrsio Milfeddygol (Cwrs Prentisiaeth)

  • Campws Pibwrlwyd
Amrywio yn ôl Lefel

Mae’r brentisiaeth hon yn cynnig llwybr strwythuredig i unigolion sy’n ceisio gyrfa mewn gofal milfeddygol. Ar lefel sylfaen, mae dysgwyr yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn trin anifeiliaid, gofal anifeiliaid a dyletswyddau gweinyddol o fewn amgylchedd milfeddygol. Mae cwblhad llwyddiannus yn eu paratoi ar gyfer rolau fel cynorthwywyr gofal milfeddygol neu ar gyfer addysg bellach. Ar lefel uwch, mae prentisiaid sydd eisoes yn gweithio mewn practisau hyfforddi milfeddygol cymeradwy yn gwella eu sgiliau mewn nyrsio anifeiliaid bach. Mae cwblhau’r rhaglen yn galluogi prentisiaid i ymuno â’r Gofrestr Nyrsys Milfeddygol a chanlyn cyfleoedd addysg uwch neu gymwysterau uwch.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
Amrywio yn ôl Lefel

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Dysgu strwythuredig yn y gweithle
  • Cefnogaeth gan ymgynghorydd hyfforddi a thiwtoriaid
  • Datblygu sgiliau clinigol ymarferol
  • Monitro cynnydd yn rheolaidd

Lefel 2 (Sylfaen): 

Mae’r unedau astudio’n cynnwys:

  • Egwyddorion ac arferion trin a gofalu am anifeiliaid yn yr amgylchedd milfeddygol
  • Egwyddorion ac arferion cynorthwyo gyda gofal yn yr amgylchedd milfeddygol
  • Egwyddorion ac arferion dyletswyddau gweinyddol yn yr amgylchedd gofal milfeddygol

Lefel 3 (Uwch):

Mae modiwlau’n cwmpasu pynciau fel:

  • Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Llwybr Anifeiliaid Bach)
  • Sgiliau hanfodol ar lefel 2 (Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu)

Lefel 2 (Sylfaen) 

  • Cynorthwyydd Gofal Milfeddygol 
  • Myfyriwr Nyrs Milfeddygol (amodol ar ofynion cofrestru)

Lefel 3 (Uwch):

  • Nyrs Milfeddygol Cofrestredig
  • Symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch megis HNC/D, neu Radd (BSc).
  • Diploma RCVS mewn Nyrsio Milfeddygol Uwch

Mae’r dulliau asesu’n cynnwys:

  • Gwaith cwrs
  • Aseiniadau
  • Arholiadau
  • Log Sgiliau Clinigol
  • Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol 
  • Lefel 2: Does dim gofynion academaidd ffurfiol
  • Lefel 3: Pump TGAU gradd C neu uwch a rhaid iddynt gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
  • Gwaith llawn amser â thâl mewn practis hyfforddiant milfeddygol cymeradwy
  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
  • Deunydd Ysgrifennu
  • Efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer ymweliadau addysgol.

logos