Skip page header and navigation

Lefel 1 Gofal Anifeiliaid (Cwrs Coleg, Lefel 1)

  • Campws Aberystwyth
1 Flwyddyn

Gall gweithio gydag anifeiliaid fod yn ddewis gyrfaol gwerth chweil i unigolion sy’n frwdfrydig dros anifeiliaid a’u lles. Mae gwahanol gyfleoedd gwaith ar gael yn y maes hwn, yn amrywio o ofal ymarferol anifeiliaid i ymchwil, gwaith elusennol a chadwraeth.

Cynigir y cymhwyster hwn fel cwrs lefel un llawn amser ac mae’n gweithredu fel cyflwyniad neu gam ar ris yr ysgol tuag at ddiwydiannau gofal anifeiliaid. 

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unrhyw un sydd â brwdfrydedd am anifeiliaid ac a hoffai ddysgu mwy am eu gofynion hwsmonaeth a gofal. Mae gan y cwrs elfen ymarferol fawr sy’n caniatáu i fyfyrwyr fod yn yr awyr agored yn gweithio gydag ystod o anifeiliaid gwahanol gan gynnwys cwningod, moch cwta, cŵn, geifr a cheffylau i enwi ond ychydig.  Mae’r cwrs hefyd yn dysgu gwersi theori a bydd yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth ddamcaniaethol yn yr ystafell ddosbarth. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd myfyrwyr yn ennill profiad o weithio mewn lleoliad ymarferol gan ddysgu sut i ofalu am amrywiaeth o anifeiliaid mewn dau sefydliad ymarferol gwahanol gan gynnwys Wild Animal Kingdom Y Borth ac iard Geffylau’r Brifysgol yn Lluest. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gael amrywiaeth o ymweliadau addysgol tra ar y cwrs. Bydd cyflogwyr lleol hefyd yn ymweld â’r coleg i roi sgyrsiau addysgol ynghyd â thîm amrywiol o ddarlithwyr a fydd yn cyflwyno gwersi theori sy’n ategu ac yn cefnogi’r elfennau ymarferol a ddysgwyd.     

  • Arferion gwaith diogel ac effeithiol mewn diwydiannau ar dir
  • Paratoi i weithio yn y diwydiannau ar dir
  • Cynorthwyo gyda chynnal iechyd a lles anifeiliaid
  • Anifeiliaid yn y gwyllt a’u prif nodweddion
  • Cynorthwyo gyda phorthi a dyfrhau anifeiliaid
  • Cynorthwyo gyda pharatoi a chynnal a chadw llety anifeiliaid
  • Cynorthwyo gyda thrin a ffrwyno anifeiliaid

Caiff myfyrwyr eu hasesu drwy asesiadau ymarferol, asesiadau ysgrifenedig, a phrofion ar-lein allanol.

Tri TGAU graddau A*-G mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) a chyfweliad llwyddiannus.

Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol

Bydd gofyn i fyfyrwyr feddu ar gyfarpar digonol ar gyfer gweithio y tu allan ym mhob tywydd. Bydd gofyn hefyd i fyfyrwyr feddu ar y cyfarpar arferol ar gyfer gweithio mewn amgylchedd ystafell ddosbarth.

Mwy o gyrsiau Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau

Chwiliwch am gyrsiau