Rheolaeth Anifeiliaid - Diploma Lefel Mynediad (Cwrs Coleg)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r cwrs hwn yn rhaglen lefel 3 lawn amser sy’n cynnig ystod o sgiliau cyffrous a chyfleoedd dysgu i’r rheiny sy’n frwdfrydig ynghylch anifeiliaid.
Mae’r cwrs blwyddyn o hyd yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sy’n ofynnol gan gyflogwyr yn y diwydiant rheolaeth anifeiliaid sy’n galluogi dysgwyr i symud ymlaen i gyflogaeth neu gyrsiau lefel uwch yn y maes pwnc hwn.
Agwedd hanfodol ar sicrhau swydd yn y diwydiant ar dir yw profiad ymarferol. O ganlyniad, mae angen 300 awr o brofiad gwaith yn ogystal er mwyn helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r diwydiant ac i fod o fudd i’r rheiny sy’n ymgeisio am yrfaoedd yn y diwydiant.
Disgwylir i fyfyrwyr ddod o hyd i leoliad a’i drefnu eu hunain, o fewn y sector yr hoffent weithio ynddo. Er mwyn caniatáu i fyfyrwyr gyrraedd y nifer gofynnol o oriau, byddant yn treulio 3 diwrnod yn y coleg a’r 2 ddiwrnod arall allan ar leoliad gwaith. O ganlyniad, mae’n hollbwysig bod myfyrwyr yn sicrhau lleoliad gwaith o fewn y mis cyntaf o ddechrau’r cwrs.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Mae myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol gydag ystod o anifeiliaid anwes, mamaliaid bach, da byw, a rhywogaethau o anifeiliaid dyfrol ac egsotig ar y campws ac oddi arno.
- Byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau a gweithdai’n cynnwys cyflogwyr sy’n cael eu trefnu fel rhan o’r cwrs ac sy’n ymwneud yn benodol â modiwlau’r cwrs.
- Mae profiad gwaith (300 awr) yn elfen orfodol o’r cwrs a’i nod yw datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd o fewn y diwydiant. Rhaid i’r myfyriwr drefnu hwn.
- Mae digonedd o fynediad i wasanaethau cymorth dysgu.
Bydd myfyrwyr yn astudio nifer o unedau a fydd yn cynnwys:
- Deall a Hyrwyddo Iechyd Anifeiliaid
- Rheoli Llety Anifeiliaid
- Cynllunio a Monitro Bwydo Anifeiliaid
- Deall Egwyddorion Bioleg Anifeiliaid
- Trafod Anifeiliaid a Gweithio’n Ddiogel
- Ymgymryd â, ac Adolygu, Profiad Cysylltiedig â Gwaith yn y Diwydiannau ar Dir
- Deall a Dehongli Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid
- Deall Lles Anifeiliaid a Datblygu Bridiau
- Deall yr Egwyddorion a Chyflawni Ymarfer Gofal a Hwsmonaeth Anifeiliaid Egsotig
- Deall Egwyddorion Hwsmonaeth a Rheolaeth Anifeiliaid Dyfrol
Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau fel rhan o’r cwrs, a all gynnwys TGAU Mathemateg neu Saesneg, neu gwrs Sgiliau Cymraeg.
- Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch helpu i ddod o hyd i waith gydag anifeiliaid, efallai mewn cyndy neu gathdy, parlwr twtio cŵn neu siop anifeiliaid anwes.
- Efallai bod gennych rywfaint o brofiad mewn gofal anifeiliaid ac eisiau datblygu’r sgiliau i fod yn uwch weithiwr neu reolwr, neu i baratoi ar gyfer hyfforddiant lefel uwch.
- Gall dysgwyr fynd ymlaen i Addysg Uwch oherwydd bod gan y cymhwyster hwn bwyntiau UCAS. Fodd bynnag, dylech wirio’r pwyntiau sydd eu hangen ar gyfer y cwrs sydd o ddiddordeb i chi.
- Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r pwyntiau UCAS canlynol:
- Gradd D* - 84
- Gradd D - 72
- Gradd M - 48
- Gradd P - 24
Mae gan bob uned un aseiniad sy’n cynnwys cyfres o dasgau. Mae’r tasgau hyn yn amrywio o ran eu strwythur, ac yn cynnwys cymysgedd o:
- adroddiadau ysgrifenedig
- tasgau ymarferol
- posteri
- taflenni
- cyflwyniadau
- portffolios
- llyfrynnau
- a mwy
Mae’r dull asesu amrywiol hwn yn caniatáu i’n hystod amrywiol o fyfyrwyr arddangos eu cryfderau unigol.
- Rhaid bod myfyrwyr newydd wedi ennill o leiaf 5 TGAU gyda gradd A*-D. Rhaid i’r rhain gynnwys naill ai Mathemateg, Saesneg, neu Gymraeg iaith gyntaf.
- Rhaid bod myfyrwyr sy’n symud ymlaen wedi ennill o leiaf Pas mewn cymhwyster anifeiliaid Lefel 2, ynghyd â phresenoldeb o 70% o leiaf, cyfweliad llwyddiannus, ac wedi ennill naill ai eu TGAU Saesneg, Cymraeg iaith gyntaf, neu Fathemateg.
- Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 16 oed neu’n hŷn,
- Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg. Fodd bynnag bydd disgwyl i chi hefyd brynu dillad penodol ar gyfer sesiynau ymarferol sef oferôls, sgrybs, trowsus gwrth-ddŵr a welingtons (yn ddelfrydol gyda blaenau dur). Ni ddylai’r gost fod yn fwy na £150 a gellir trafod hyn yn y cyfweliad.
- Gellir prynu hwdis a thopiau gyda logo’r coleg, er mae hyn yn opsiynol.
- Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
- Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.