Skip page header and navigation

Hyfforddi ac Asesu Arwain Cam 2 BHS Cymdeithas Ceffylau Prydain (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion, Lefel 2)

  • Campws Pibwrlwyd
10 wythnos

Mae asesiad Arwain Cam 2 BHS yn ffurfio rhan o’r cymhwyster Gwastrawd Sylfaen Cam 2 BHS.

Cynlluniwyd y cwrs hwn i baratoi ac asesu dysgwyr ar gyfer arholiad Arwain Cam 2 BHS.  Mae’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd am wella gwybodaeth a sgiliau ymhellach a chamu i fyny i ddod yn wastrawd cynorthwyol yn gweithio gyda cheffylau.

Bydd y cwrs yn eich helpu i wella gwybodaeth a sgiliau ymarferol er mwyn gallu paratoi ceffyl i arwain gan ddefnyddio tac sy’n cynnwys ffrwyn, penwar, cyfrwy, llinellau ffrwyn ochrol a bŵts brwsio, arddangos arwain diogel a gweithio’r ceffyl gyda’i gamau sylfaenol, gan ystyried maint y cylch.

Cynhelir y cwrs a’r asesiad yng Nghanolfan Hyfforddi Gymeradwy BHS Coleg Sir Gâr. Caiff y sesiynau ymarferol eu cyflwyno ar yr iard a bydd y cwrs hefyd yn cynnwys mynediad i adnoddau dysgu ar-lein.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
10 wythnos

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Mynediad i adnoddau ar-lein a chefnogaeth
  • Cwblhau eich Cofnod Sgiliau
  • Bydd y cwrs yn para am 10 wythnos gydag un sesiwn 2 awr yr wythnos yn y coleg. Bydd y 10fed wythnos yn cynnwys 2 ddiwrnod - y sesiwn hyfforddi 2 awr olaf ac yna asesiad arwain Cam 2 BHS y diwrnod canlynol.
  • Amgylchedd dysgu cefnogol
  • Deall arwain ceffyl
  • Deall cyfarpar sydd ei angen ar gyfer arwain
  • Gallu arwain ceffyl ar gyfer ymarfer corff
  • Cymwys i symud ymlaen i Wastrawd ac Arwain Cam 3 BHS yn amodol ar gyflawni asesiad Gofal ac Arwain Cam 2 BHS yn llwyddiannus
  • Cam 2 BHS yw’r ail gam i ddod yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant trwy ddilyn Llwybr Proffesiynol BHS
  • Bydd y cymhwyster gwastrawd sylfaen Cam 2 BHS yn rhoi’r sgiliau i chi weithio yn y diwydiant fel gwastrawd cynorthwyol, gan ofalu’n gymwys am geffylau gydag ychydig o oruchwyliaeth
  • Mae yna alw cynyddol am bobl sydd â sgiliau ymarferol da i weithio mewn iardiau stablau, gwaith gre a rasio, ymysg disgyblaethau a meysydd eraill.

Asesiad Arwain cam 2 BHS

Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed ac yn meddu ar aelodaeth Aur gyfredol y BHS

Mae angen cefndir addas a pherthnasol ym maes ceffylau a phrofiad o weithio gyda cheffylau a’u trafod ac mae’n bosibl y gofynnir am eirda gan berson â chymwysterau neu brofiad addas.

Rhaid bod dysgwyr wedi cyflawni asesiad Gofal Cam 1 BHS a’r asesiad gofal Cam 2 BHS yn llwyddiannus er mwyn symud ymlaen i’r cwrs Arwain Cam 2 hwn gyda’r asesiad ar y diwedd.  Rhaid i ymgeiswyr allu darparu tystiolaeth o dystysgrifau gofal Cam 2.

Mewn rhai achosion, gall tystysgrif Cydnabod Dysgu Ardystiedig Blaenorol olygu y gall ymgeiswyr fod yn gymwys ar gyfer mynediad uniongyrchol i asesiadau lefel Cam 2 ac uwch y BHS - gweler gwefan Cymdeithas Ceffylau Prydain i gael mwy o wybodaeth neu cysylltwch ag Uned Dderbyn Coleg Sir Gâr.  

  • Ffi’r cwrs yw £285
  • Mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu eu cyfarpar eu hunain, gan gynnwys bŵts iard addas, het i safonau cyfredol y diwydiant a menig ar gyfer gweithio o gwmpas y ceffylau a’r cyfarpar.