Gofal Ceffylau Lefel 2 (Cwrs Coleg)
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r cwrs gofal ceffylau hwn yn cynnig cyflwyniad delfrydol i reolaeth ceffylau a stablau ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiant ceffylau neu ar gyfer y rheiny sy’n dymuno symud ymlaen i gwrs rheolaeth ceffylau a stablau lefel tri.
Nod y rhaglen yw datblygu sgiliau’r dysgwyr ac mae’n darparu gwybodaeth helaeth yn ymwneud â cheffylau a’r diwydiant ceffylau. Mae dysgwyr yn astudio theori yn yr ystafell ddosbarth a gweithgareddau ymarferol yn arena gystadlu’r coleg sy’n ganolfan arholi Cymdeithas Ceffylau Prydain.
Mae gan y coleg amrywiaeth o geffylau wedi’u gwastrodi’n dda a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant mewn dressage a neidio ceffylau.
Mae’r cwrs yn cynnwys uned brofiad gwaith orfodol sy’n golygu 150 o oriau o brofiad gwaith drwy gydol y flwyddyn mewn canolfan geffylau addas.
Fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn adeiladu ar sgiliau hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd a darperir cyfleoedd ar gyfer gwneud TGAU mewn Saesneg a mathemateg. Yn ogystal datblygir dwyieithrwydd y dysgwr.
Bydd y dysgwr hefyd yn cael y cyfle i sefyll arholiadau cam un Cymdeithas Ceffylau Prydain a Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffordd pan fydd yn cyrraedd y safon ofynnol.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Arena gystadlu gyda cheffylau wedi’u gwastrodi ar gyfer dressage a neidio ceffylau
- Amgylchedd dysgu cefnogol
- Mae profiad gwaith a Sgiliau Hanfodol yn cynyddu’r siawns o gyflogaeth ar ôl cwblhau’r cwrs
- Cyfleoedd i gystadlu ar eich ceffyl eich hun neu gyda cheffylau’r coleg
- Darperir cymorth dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac mae sesiynau wythnosol ar gael yn y Parth Astudio os oes angen.
- Bydd tiwtorialau rheolaidd yn monitro cynnydd ar y cwrs
Unedau Craidd:
- Iechyd a diogelwch ar gyfer y diwydiannau ar dir
- Gweithio yn y diwydiant ceffylau
- Iechyd a lles ceffylau
- Tac a chyfarpar ceffylau
- Ymgymryd â dyletswyddau rheolaidd y stabl
- Egwyddorion bwydo a dyfrio ceffylau
- Trin a gwastrodi ceffylau
- Cyflwyniad i arwain ceffylau
Unedau Opsiynol:
- Marchogaeth ceffylau ar y fflat
- Cadw ceffylau ar laswellt
- Ymddygiad ceffylau
Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gyda theilyngdod neu uwch symud ymlaen i’r diploma uwch lefel tri mewn rheolaeth ceffylau a stablau neu i gyflogaeth yn dilyn cyfweliad llwyddiannus ac isafswm presenoldeb blaenorol o 85%.
Mae yna alw cynyddol am bobl sydd â sgiliau ymarferol da i weithio mewn iardiau stablau, gwaith gre a rasio, ymysg disgyblaethau a meysydd eraill. Caiff arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain eu cydnabod gan y diwydiant ar draws y byd.
Asesiad synoptig ac aseiniadau unedau unigol: Mae’r rhain yn cael eu gosod yn allanol, eu marcio’n fewnol a’u cymedroli’n allanol.
Arholiad theori diwedd blwyddyn: Caiff ei osod yn allanol a’i farcio’n allanol a gellir ei sefyll naill ai ar-lein neu fel papur ysgrifenedig.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Tri TGAU (gan gynnwys o leiaf un TGAU (A* i C) mewn mathemateg, Cymraeg neu Saesneg) a chyfweliad llwyddiannus.
Bydd lle marchogaeth neu le nad yw’n cynnwys marchogaeth yn amodol ar asesiad marchogaeth
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Yn ychwanegol, mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu eu cyfarpar marchogaeth eu hunain, gan gynnwys bŵts marchogaeth addas, het sy’n bodloni safonau cyfredol y diwydiant a menig. Mae angen i ddysgwyr ar y llwybr nad yw’n cynnwys marchogaeth gael bŵts iard addas ar gyfer gweithio o amgylch y ceffylau a’r cyfarpar. Mae cymorth ariannol ar gael i ddysgwyr sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer cymorth.