Skip page header and navigation

Gwasrawd Sylfaen Cymdeithas Ceffylau Prydain Cam 2 Gofal Ac Arwain (Lefel 2)

  • Campws Pibwrlwyd
1 flwyddyn

Bydd dysgwyr yn mynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos, bob dydd Mawrth trwy gydol y flwyddyn academaidd.  Nod y cwrs yw datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol, sgiliau marchogaeth ymarferol a thechneg asesu’r dysgwr wrth baratoi ar gyfer arholiad Cymhwyster Gofal ac Arwain Cam 2 Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS).  Bydd y diwrnod yn y coleg yn cynnwys sesiynau theori yn yr ystafell ddosbarth ac yna sesiynau ymarferol ar iard y coleg gan ddefnyddio ceffylau’r coleg a chyfleusterau ceffylau y coleg. 

Bydd y cymhwyster hwn yn ehangu ar wybodaeth a enillwyd yn y cymhwyster Gofal Cam 1 BHS gyda meysydd pwnc newydd fel; Cyflwyniad i Anatomeg, Ffitrwydd a Chyflwyno ac arwain ceffylau dan oruchwyliaeth. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel cymwysterau safon y diwydiant.  Bydd dysgwyr yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr, canolfan arholi a gymeradwyir gan Gymdeithas Ceffylau Prydain. Mae cyfleusterau’r coleg yn cynnwys ysgol dan do, menage awyr agored a llety mewn stablau i tua 14 o geffylau.  Caiff y cwrs hwn ei addysgu gan ddarlithwyr cymwys Cymdeithas Ceffylau Prydain.

Mae enghreifftiau o’r unedau astudio yn cynnwys:

  • Gwybod am rolau, hawliau a chyfrifoldebau Gwastrawd
  • Porthi a Dyfrhau
  • Iechyd ac Anatomeg Ceffylau
  • Gofal Glaswelltir a Chynllunio Stablau
  • Arwain ceffyl dan oruchwyliaeth
  • Pedoli, Clipio a Thrimio
  • Gwastrodi, plethu a gosod cyfarpar
  • Ffitrwydd ar gyfer gwaith

Bydd unigolion yn ennill cymhwyster Gwastrawd Sylfaen y BHS a all arwain at rolau proffesiynol fel Gwastrawd Cynorthwyol neu Gynorthwyydd Iard neu ddarparu mynediad i gwrs Gofal Ceffylau Cam 3 BHSQ/Prentisiaeth Astudiaethau Ceffylau Lefel 3 yng Ngholeg Sir Gâr. 

Bydd dysgwyr yn ymgymryd ag arholiad BHS ymarferol ffurfiol/llafar ymarferol ar ddiwedd eu cwrs, gan arholwyr allanol y BHS.  Cynhelir yr arholiad Gwybodaeth a Gofal Ceffylau Cam 2 BHSQ ar Gampws Pibwrlwyd yng Ngholeg Sir Gâr.  Bydd y dysgwyr hyn yn cael eu hasesu’n barhaus yn y coleg gan staff cymwys y coleg trwy gyfrwng gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith ymarferol, trafodaethau llafar ac arsylwadau.

  • Hyfforddi tuag at gymhwyster Cam 2 BHS
  • Eisoes wedi ennill eu Cam 1 BHSQ 
  • Myfyrwyr astudiaethau ceffylau’r coleg
  • Aelodau’r Pony Club sydd â C+ 
  • Y rheiny sydd am ddatblygu eu gwybodaeth am ofal a thrafod ceffylau.
  • Mae Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain yn ofynnol
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf.
  • Mae ffi cwrs rhan-amser ar gyfer y cwrs hwn ym Mand Ffi P £759
  • Yn ogystal, bydd ymgeiswyr angen Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain, gellir ei brynu’n uniongyrchol gan y BHS.  Mae hwn yn danysgrifiad blynyddol sy’n caniatáu i unigolion gymryd rhan mewn arholiadau BHS.
  • Bydd angen i chi ddarparu eich PPE eich hun ar gyfer yr elfennau ymarferol gan gynnwys esgidiau diogel addas, menig a het farchogaeth sy’n bodloni’r safonau diogelwch cyfredol. 

Mwy o gyrsiau Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau

Chwiliwch am gyrsiau