Skip page header and navigation

Gofal Anifeiliaid Lefel 1 (Cwrs Coleg)

  • Campws Pibwrlwyd
  • Campws Aberystwyth
Flwyddyn

Cynigir y cymhwyster hwn fel cwrs lefel un llawn amser ac mae’n gweithredu fel cyflwyniad neu gam ar ris yr ysgol tuag at ddiwydiannau gofal anifeiliaid. 

Gall gweithio gydag anifeiliaid fod yn ddewis gyrfaol gwerth chweil i unigolion sy’n frwdfrydig dros anifeiliaid a’u lles. Mae gwahanol gyfleoedd gwaith ar gael yn y maes hwn, yn amrywio o ofal ymarferol anifeiliaid i ymchwil, gwaith elusennol a chadwraeth.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unrhyw un sydd â brwdfrydedd am anifeiliaid ac a hoffai ddysgu mwy am eu gofynion hwsmonaeth a gofal. Mae gan y cwrs elfen ymarferol fawr sy’n caniatáu i fyfyrwyr fod yn yr awyr agored yn gweithio gydag ystod o anifeiliaid gwahanol gan gynnwys cwningod, moch cwta, cŵn, geifr a cheffylau i enwi ond ychydig.  Mae’r cwrs hefyd yn dysgu gwersi theori a bydd yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth ddamcaniaethol yn yr ystafell ddosbarth. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Profiad ymarferol gydag ystod eang o anifeiliaid, gan gynnwys cŵn, moch cwta, ymlusgiaid, amffibiaid, adar, gwartheg a cheffylau
  • Mae ymweliadau ac ymchwiliadau ymarferol yn ehangu’r profiad dysgu
  • Ystod o asesiadau gwahanol (sesiynau ymarferol, profion amlddewis, aseiniadau ysgrifenedig)
  • Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a rhifedd a’r cyfle i ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg,
  • Gall profiad gwaith (60 awr) wella rhagolygon cyflogaeth
  • Mae iechyd a diogelwch yn rhan bwysig o’r cwrs a chaiff ei asesu’n ymarferol ac mewn prawf amlddewis ar-lein byr
  • Arferion gwaith diogel ac effeithiol mewn diwydiannau ar dir
  • Paratoi i weithio yn y diwydiannau ar dir
  • Cynorthwyo gyda chynnal iechyd a lles anifeiliaid
  • Anifeiliaid yn y gwyllt a’u prif nodweddion
  • Cynorthwyo gyda bwydo a dyfrhau anifeiliaid
  • Cynorthwyo gyda pharatoi a chynnal a chadw llety anifeiliaid
  • Cynorthwyo gyda thrafod a ffrwyno anifeiliaid

Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad sylfaenol i unrhyw un sy’n bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiannau gofal anifeiliaid.  Gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i gyflogaeth neu astudio diploma lefel dau’r coleg mewn gofal anifeiliaid.  Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys cynorthwywyr gofal anifeiliaid mewn siopau anifeiliaid anwes, cyndai a chathdai preswyl ac achub.

Asesir trwy asesiadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig a dau brawf amlddewis ar-lein.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Tri TGAU graddau A*-G neu gyfwerth, geirdaon da a chyfweliad llwyddiannus.  Bydd y rheiny heb gymwysterau ffurfiol yn cael eu hystyried yn dilyn cyfweliad, geirdaon a phrawf mynediad. 

Disgwylir i ddysgwyr ddarparu eu welingtons a’u dillad glaw eu hunain ar gyfer sesiynau ymarferol.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i ddysgwyr ddarparu eu deunydd ysgrifennu eu hunain a hefyd gallant fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu gweithgareddau allgyrsiol fel ymweliadau addysgol.