Cwrs byr Hyfforddi ac Asesu Gofal Cam 2 BHS Cymdeithas Ceffylau Prydain (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion, Lefel 2)
- Campws Pibwrlwyd
Cynlluniwyd y cwrs hwn i baratoi ac asesu dysgwyr ar gyfer arholiad ‘Gwastrawd Sylfaen’ Gofal Cam 2 BHS. Mae’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd am wella gwybodaeth a sgiliau ymhellach a chamu i fyny i ddod yn wastrawd cynorthwyol yn gweithio gyda cheffylau.
Bydd y cwrs yn eich helpu i wella gwybodaeth a dealltwriaeth am ofal a rheolaeth ceffylau, mewn iard stablau ac mewn amgylchedd ehangach hefyd.
Bydd yn datblygu sgiliau mewn gofalu am les ceffylau a’u rheoli, gan gynnwys ymddygiad ac iechyd ceffylau, paratoi ar gyfer teithio, anatomeg sylfaenol, bwydo a defnyddio cyfarpar a thac yn addas.
Cynhelir y cwrs a’r asesiad yng Nghanolfan Hyfforddi Gymeradwy BHS Coleg Sir Gâr. Caiff y sesiynau ymarferol eu cyflwyno ar yr iard a bydd y cwrs hefyd yn cynnwys modiwlau theori fel dysgu dan arweiniad ar-lein. learning.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Dysgu dan arweiniad ar-lein, mynediad i adnoddau a chefnogaeth
- Cwblhau eich Cofnod Sgiliau
- Bydd y cwrs yn para am 10 wythnos gydag un sesiwn 2 awr yr wythnos yn y coleg. Bydd y 10fed wythnos yn cynnwys 2 ddiwrnod - y sesiwn hyfforddi 2 awr olaf ac yna asesiad gofal Cam 2 BHS y diwrnod canlynol.
- Amgylchedd dysgu cefnogol
- Gwybod am rolau, hawliau a chyfrifoldebau Gwastrawd Cynorthwyol
- Gallu gosod tac a bŵts ar geffyl
- Gallu paratoi ceffyl ar gyfer teithio
- Gwybod am ymddygiad ceffylau
- Deall sut i fwydo ceffylau
- Gwybod am anatomeg sylfaenol ceffylau
- Deall ffitrwydd ceffylau
- Gallu cynnal iechyd ceffyl
- Gallu paratoi ceffyl ar gyfer cyflwyno
- Deall sut i ofalu am draed ceffyl
- Deall yr amgylchedd ar gyfer cadw ceffylau
- Cymwys i symud ymlaen i Wastrawd Cam 3 BHS yn amodol ar gyflawni asesiad Gwastrawd Sylfaen Cam 2 BHS yn llwyddiannus
- Cam 2 BHS yw’r ail gam i ddod yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant trwy ddilyn Llwybr Proffesiynol BHS
- Bydd y cymhwyster gwastrawd sylfaen Cam 2 BHS yn rhoi’r sgiliau i chi weithio yn y diwydiant fel gwastrawd cynorthwyol, gan ofalu’n gymwys am geffylau gydag ychydig o oruchwyliaeth
- Mae yna alw cynyddol am bobl sydd â sgiliau ymarferol da i weithio mewn iardiau stablau, gwaith gre a rasio, ymysg disgyblaethau a meysydd eraill.
Asesiad Gofal cam 2 BHS
Rhaid i ddysgwyr fod dros 16 oed ac yn meddu ar aelodaeth Aur gyfredol y BHS
Mae angen cefndir addas a pherthnasol ym maes ceffylau a phrofiad o weithio gyda cheffylau a’u trafod ac mae’n bosibl y gofynnir am eirda gan berson â chymwysterau neu brofiad addas.
Rhaid bod dysgwyr wedi cyflawni asesiad Gofal Cam 1 BHS yn llwyddiannus er mwyn dilyn y cwrs hwn gyda’r asesiad Cam 2 ar y diwedd a rhaid i ymgeiswyr allu darparu tystiolaeth o’r Dystysgrif Cam 1.
Mewn rhai achosion, gall tystysgrif Cydnabod Dysgu Ardystiedig Blaenorol olygu y gall ymgeiswyr fod yn gymwys ar gyfer mynediad uniongyrchol i asesiadau lefel Cam 2 ac uwch y BHS - gweler gwefan Cymdeithas Ceffylau Prydain i gael mwy o wybodaeth neu cysylltwch ag Uned Dderbyn Coleg Sir Gâr
- Mae ffi o £460 ar gyfer y cwrs
- Mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu eu cyfarpar eu hunain, gan gynnwys bŵts iard addas, het i safonau cyfredol y diwydiant a menig ar gyfer gweithio o gwmpas y ceffylau a’r cyfarpar.