Skip page header and navigation

Gofal Anifeiliaid Lefel 2 (Cwrs Coleg)

  • Campws Pibwrlwyd
1 Flwyddyn

Rhaglen lefel 3 yw hon sydd yn rhoi cyfle i chi astudio celf a dylunio mewn ffyrdd archwiliol, ymchwiliol ac arbrofol.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt o bosibl unrhyw gymwysterau ffurfiol blaenorol, ond sydd mewn cyfweliad portffolio yn arddangos brwdfrydedd, ymrwymiad i gelf a dylunio, a bod ganddynt y potensial i gwblhau’r cwrs a gwneud cais am le ar gyrsiau gradd creadigol.

Yn draddodiadol, mae’r rhaglen yn cynnwys ystod amrywiol o grwpiau oedran ac anogir chi i ddatblygu eich sgiliau creadigol a thechnegol trwy ddarlithoedd, gweithdai a phrosiectau.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

What you will learn

Mae modiwlau ar y cymhwyster hwn yn cynnwys y canlynol:  

  • Cynnal iechyd a lles anifeiliaid  
  • Bwydo a lletya anifeiliaid 
  • Ymddygiad a thrin anifeiliaid  
  • Gweithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid 
  • Iechyd a diogelwch ar gyfer y diwydiannau ar dir  
  • Egwyddorion bioleg anifeiliaid  
  • Nyrsio anifeiliaid
  • Cyflwyniad i ofalu am geffylau 

Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich sgiliau mewn meysydd y tu allan i ofal anifeiliaid. 

Cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o sgiliau megis: 

  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu 
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif  
  • TGAU neu gymhwyster Agored mewn Saesneg a Mathemateg

Byddwch chi’n gweithio’n agos gyda’ch cyflogwr ar gyfer profiad gwaith a hefyd tiwtoriaid cwrs yn y coleg.  

Byddwch yn mynychu’r coleg tua phedwar diwrnod yr wythnos ar gyfer sesiynau gwybodaeth greiddiol ac asesiadau ymarferol.  Mae’r cwrs yn seiliedig ar waith theori a gwaith ymarferol gydag amrywiaeth o anifeiliaid o famaliaid bach i geffylau.

Mae’r Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid yn cynnwys:

  • Glanhau a chynnal llety anifeiliaid
  • Gwiriadau iechyd ar ystod o anifeiliaid
  • Deall ymddygiad anifeiliaid
  • Iechyd a diogelwch yn ymwneud â gwahanol feysydd o fewn diwydiannau ar dir

Mae dilyniant o’r cymhwyster hwn yn ofyniad mynediad ar gyfer y cymhwyster lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid.   Gall llwybrau cyflogaeth eraill ddeillio o’ch lleoliad profiad gwaith neu ddiwydiannau ar dir a chyfleoedd eraill. 

Asesir unedau yn ymarferol yng nghanolfan gofal anifeiliaid y coleg, trwy ystod o arsylwadau ac mae angen profion ar-lein i ategu agwedd theori’r cwrs. Cynhelir yr asesiadau ymarferol ar amrywiaeth o anifeiliaid gan gynnwys mamaliaid bach, cŵn ac anifeiliaid mawr fel geifr a cheffylau. 

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Cymhwyster lefel un ar radd teilyngdod neu ragoriaeth, presenoldeb sy’n 85% o leiaf a chyfweliad llwyddiannus, a fydd yn cynnwys tasg cyfweliad y bydd angen i chi ei chwblhau. 

Fel arall, pedwar TGAU gyda graddau A*-D gan gynnwys naill ai mathemateg, Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf.

Rhaid i’r myfyriwr allu cael 150 awr o leoliad gwaith gyda lleoliad rhagarweiniol wedi’i drefnu cyn yr wythnos gynefino yn y coleg - gellir trafod hyn yn y cyfweliad.  Gofynnir i fyfyrwyr yn ogystal wneud prawf diagnostig ar eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ond mae cymorth dysgu ar gael.   

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Bydd angen i chi ddarparu eich cyfarpar diogelu personol eich hun ar gyfer y cwrs, a fydd yn cynnwys welingtons a dillad glaw, ar gyfer gweithgareddau ymarferol. 

Mwy o gyrsiau Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau

Chwiliwch am gyrsiau