Skip page header and navigation

Tystysgrif Addysg Uwch Gwyddor Anifeiliaid Lefel 4 Ar-lein (Cwrs Coleg)

  • Ar-Lein
Blwyddyn yn Llawn Amser / Dwy flynedd yn Rhan-amser

Mae’r cwrs gwyddor anifeiliaid ar-lein hwn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ehangu eu gwybodaeth am egwyddorion gwyddonol etholeg, ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid, a chymhwyso’r wybodaeth hon i les anifeiliaid, hwsmonaeth a chadwraeth.

Astudir y cwrs cyfan 100% ar-lein a gellir ei astudio’n rhan-amser neu’n llawn amser a gall arwain at symud ymlaen i radd sylfaen y coleg mewn gwyddor anifeiliaid neu’r radd BSc anrhydedd mewn ymddygiad a lles anifeiliaid.

Mae’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio trwy ddysgu o bell ddatblygu gwybodaeth graidd a sgiliau allweddol sy’n ofynnol i israddedigion sy’n anelu at weithio mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid neu sydd eisoes yn gweithio ynddynt.

Gall myfyrwyr gofrestru i astudio naill ai ym mis Medi, mis Ionawr neu fis Mai.  Mae angen iddynt gwblhau chwe modiwl i gyflawni’r cymhwyster.

Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i astudio gartref ar amser sydd fwyaf cyfleus iddyn nhw er mwyn datblygu ystod o sgiliau, nodweddion ac agweddau personol sy’n angenrheidiol i weithio ym maes gwyddor anifeiliaid yn llwyddiannus. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
Blwyddyn yn Llawn Amser / Dwy flynedd yn Rhan-amser

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae myfyrwyr rhan-amser yn gwneud un modiwl bob semester, am dri semester y flwyddyn dros ddwy flynedd. Mae myfyrwyr llawn amser yn gwneud dau fodiwl y semester am dri semester mewn blwyddyn.

Mae pob modiwl yn cynnwys deg sesiwn astudio ar wahân, pob sesiwn yn ymgorffori gweithgareddau strwythuredig datblygiadol i gynorthwyo’r dysgwr o bell i ddatblygu’r wybodaeth greiddiol a’r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau’r asesiadau.

Mae gan fyfyrwyr fynediad i gyfleusterau ar-lein helaeth gan gynnwys deunyddiau dysgu ar-lein a deunyddiau ymchwil llyfrgelloedd Coleg Sir Gâr a Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant yn ogystal â mynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos trwy VLE Moodle y coleg a Google Classrooms ategol.

Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Bydd myfyrwyr yn astudio modiwlau craidd gorfodol yn ymwneud ag ymchwil annibynnol mewn meysydd pwnc allweddol, yn ychwanegol at fodiwlau sy’n ymwneud ag astudiaeth fanwl o ymddygiad, etholeg, ffisioleg, iechyd a lles anifeiliaid.

Mae’r Modiwlau gorfodol yn cynnwys: 

  • Maetheg Anifeiliaid, Cyflwyniad i Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid, 
  • Cyflwyniad i Ymddygiad Anifeiliaid, 
  • Paratoi at weithio yn y Diwydiant Gofal Anifeiliaid a Sgiliau Astudio. 

Mae Modiwlau ychwanegol yn cynnwys: 

  • Rheolaeth Rhywogaethau Egsotig Caeth a Chyflwyniad i Fioleg Forol.

Ar gwblhau’r dystysgrif gall myfyrwyr llwyddiannus wneud cais i symud ymlaen i lefel pump y radd sylfaen mewn gwyddor anifeiliaid a graddau anrhydedd. Mae’r llwybrau cyflogaeth yn amrywiol gan gynnwys gwaith sŵ, anifeiliaid anwes, da byw a gwaith cadwraeth.

Mae’r asesu’n amrywiol ac yn addas ar gyfer gofynion modiwlau ar-lein unigol ac yn cynnwys:  

Traethodau, cyflwyniadau, adroddiadau ysgrifenedig, adroddiadau astudiaethau achos, ymchwil/arsylwadau ymarferol annibynnol, portffolios ymchwil, cyflwyniadau seminar.

Caniateir mynediad i ymgeiswyr sy’n arddangos y gallu academaidd a’r potensial i elwa o’r rhaglen.  Bydd angen cymhwyster lefel tri gyda gradd pas neu uwch ar fyfyrwyr sy’n cychwyn astudio ac, yn ddelfrydol, byddant wedi ymgymryd â rhywfaint o brofiad gwaith gydag anifeiliaid neu yn meddu ar brofiad cysylltiedig â’r diwydiant neu ardystiad cyfwerth. Mae angen i fyfyrwyr fod dros 18 oed yn ogystal.  

Bydd myfyrwyr hŷn (dros 21 oed) yn cael eu hystyried ar sail unigol gan y rhoddir ystyriaeth i gymwysterau a phrofiad sy’n berthnasol i’r diwydiant.  

Mae’r ffioedd yr un peth â’r ffioedd addysg uwch safonol.  Fodd bynnag, mae’r cwrs hefyd yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.