Skip page header and navigation

Diploma Lefel Mynediad Gofal Anifeiliaid (Cwrs Coleg)

  • Campws Pibwrlwyd
1 Flwyddyn

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu ystod eang o sgiliau, o fod yn gallu cyfathrebu ag eraill a gweithio’n ddiogel i allu rhoi ffrwyn a chyfrwy ar geffyl.   Bydd y cwrs yn cynnwys gweithio’n uniongyrchol o fewn y ganolfan gofal anifeiliaid a’r iard geffylau sydd ar y safle.  Bydd y gwersi yn gymysgedd o waith ymarferol a gwaith dosbarth.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda thiwtoriaid eich cwrs i gwblhau’r cwrs.  Byddwch yn y coleg 3 diwrnod yr wythnos, gyda gwaith ymarferol y rhan fwyaf o’r diwrnodau. Bydd y cwrs hwn yn golygu eich bod yn gweithio’n uniongyrchol gydag amrywiaeth eang o anifeiliaid ar y safle, gan gynnwys adar, geifr, ymlusgiaid, moch cwta, cwningod, pysgod a cheffylau.  

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r modiwlau ar y cymhwyster hwn yn cynnwys y canlynol: 

  • Gweithio’n Ddiogel
  • Codi a Thrin yn Ddiogel
  • Cyfathrebu Effeithiol
  • Adnabod Buddion Amser Hamdden
  • Cymryd Rhan mewn Gweithgareddau Hamdden
  • Archwilio Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gwaith
  • Cynllunio ar gyfer Dilyniant
  • Adnabod Mathau a Rhannau o Gorff Anifeiliaid Bach
  • Gwirio bod Anifail Bach yn Iach
  • Cynorthwyo gyda Dal a Ffrwyno Anifail Bach
  • Twtio Anifail Bach
  • Dangos Ymwelwyr o Gwmpas Menter Anifeiliaid Bach
  • Adnabod Arwyddion Iechyd mewn Ceffyl
  • Ffitio a Thynnu Ryg
  • Glanhau Tac Ceffylau
  • Dal ac Arwain Ceffyl
  • Rhoi Cyfrwy a Ffrwyn ar Geffyl
  • Adnabod Anifail Fferm Iach
  • Glanhau Llety Anifeiliaid Fferm 
  • Sesiynau Dysgu Ymarferol

Cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o sgiliau megis:

  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu 
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif 
  • TGAU neu gymhwyster Agored mewn Saesneg a Mathemateg

Bydd cwblhau’r cwrs Mynediad 3 mewn gofal anifeiliaid yn eich galluogi i symud ymlaen i’r cwrs gofal anifeiliaid lefel 1 yn y coleg os byddwch yn pasio mynediad 3 ac yn cael cyfweliad llwyddiannus. Yn ogystal, bydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel 1 eraill yn y coleg.

Byddwch yn gwneud tasgau ymarferol yn bennaf er mwyn dangos sut mae eich dealltwriaeth o’r hyn rydych wedi’i ddysgu wedi datblygu.  Yn ogystal, bydd hi’n ofynnol i chi lenwi portffolio o wybodaeth er mwyn ennill eich cymhwyster.  Caiff tasgau ymarferol eu gwneud yn y ganolfan gofal anifeiliaid ar y safle a’r iard geffylau ar y safle.

Does dim angen unrhyw gymwysterau i gael mynediad i’r cwrs.  Fodd bynnag, rhaid i chi gael cyfweliad llwyddiannus. 

Bydd asesiad sylfaenol yn ystod y cyfnod cynefino. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun ac mae’n bosibl hefyd y bydd gofyn i chi dalu am ymweliadau addysgol y mae’r adran yn eu trefnu.   

Mae Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yn orfodol er mwyn i chi ymgymryd ag elfennau ymarferol y cwrs.  Bydd rhaid i chi ddarparu oferôls, top sgryb, welingtons neu fŵts, siaced gwrth-ddŵr ac o bosibl trowsus gwrth-ddŵr.