Skip page header and navigation

Rheolaeth Ceffylau Lefel 3 (Cwrs Coleg)

  • Campws Pibwrlwyd
2 Flynedd

Rhaglen rheolaeth ceffylau lefel tri dwy flynedd yw hon wedi’i lleoli ar iard gystadlu a chanolfan asesu BHS y coleg. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn gyrfa mewn rheolaeth ceffylau. Mae’r cwrs yn anelu at ddatblygu sgiliau ymarferol y dysgwr a thanategu’r rhain ag egwyddorion theori ystod o bynciau megis iechyd ceffylau, anatomeg a maetheg, hwsmonaeth ceffylau a rheolaeth iard. Mae’r cwrs yn cynnwys lleoliad profiad gwaith gorfodol o 150 o oriau yn ogystal â gweithgareddau cyfranogiad cyflogwyr gorfodol.

Fel rhan o’r rhaglen, bydd dysgwyr hefyd yn adeiladu ar sgiliau hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd a darperir cyfleoedd ar gyfer gwneud TGAU mewn Saesneg a mathemateg. Yn ogystal datblygir dwyieithrwydd y dysgwr.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi i’r dysgwr y cymhwyster sydd ei angen i symud ymlaen i addysg uwch yn ogystal â darparu’r sgiliau sydd eu hangen i barhau i gyflogaeth.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs yn cynnwys astudiaethau academaidd yn yr ystafell ddosbarth a sesiynau ymarferol ar iard y coleg.  Mae gan y coleg iard gystadlu gydag amrywiaeth o geffylau wedi’u gwastrodi mewn amrywiol ddisgyblaethau.  Mae gan yr iard arena dan do ac arena awyr agored ynghyd ag amrywiol gyfleusterau rheoli a hyfforddi. 

Fel rhan o’r cwrs, caiff y dysgwyr gyfle i redeg a chymryd rhan mewn cystadlaethau cyswllt a digyswllt a gynhelir yn y coleg. 

Mae Coleg Sir Gâr yn ganolfan arholi a hyfforddi gymeradwy Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS).

Mae’r cwrs yn cynnwys ymweliadau â sefydliadau ceffylau arbenigol yn ogystal â darlithoedd ac arddangosiadau gan siaradwyr gwadd proffesiynol y diwydiant fel rhan o gyfranogiad cyflogwyr gorfodol. 

Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ac yn cael profiad o ddysgu dwyieithog.

Unedau Craidd: 

  • Egwyddorion Iechyd a Diogelwch 
  • Ymgymryd â Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith yn y Diwydiannau Ar Dir a’i Adolygu Ymgymryd â Gweithrediadau Iard Stablau 
  • Iechyd Ceffylau 
  • Tac a Chyfarpar Ceffylau 
  • Systemau Biolegol Ceffylau 
  • Paratoi Ceffylau ar gyfer eu Cyflwyno 
  • Bwydo a Maetheg Ceffylau 
  • Ymddygiad a Lles Ceffylau 
  • Unedau Opsiynol: 
  • Ymarfer ceffylau neu Sgiliau ystâd

Blwyddyn 2

Unedau Craidd: 

  • Gweithio a hyfforddi ceffylau o’r llawr 
  • Egwyddorion marchogaeth 
  • Cyfrannu at reoli digwyddiad ceffylau 
  • Egwyddorion ffitrwydd ceffylau 
  • Rheolaeth busnes yn y sector Ar Dir 
  • Unedau Opsiynol: 
  • Marchogaeth ceffylau ar y fflat
  • Marchogaeth ceffylau dros ffensys / Rheoli Prosiectau Arbenigol
  • Adsefydlu Ceffylau
  • Egwyddorion gwastrodi ar gyfer cystadlaethau 
  • Egwyddorion rheolaeth glaswelltir 

Caiff myfyrwyr llwyddiannus y cyfle i fynd ymlaen i addysg uwch, er enghraifft cyrsiau gradd sylfaen llawn amser neu ran-amser, neu i gamu i yrfaoedd megis rheolaeth iard, gwaith gre, y diwydiant rasio neu wasanaethau cynghori. 

Mae’r cwrs diploma estynedig cario pwyntiau UCAS, gan alluogi’r dysgwr i wneud cais am gyrsiau addysg uwch. 

Asesiad synoptig ac aseiniadau unedau unigol: Cânt eu gosod yn allanol, eu marcio’n fewnol a’u cymedroli’n allanol.           

Arholiad theori diwedd blwyddyn: Caiff ei osod yn allanol a’i farcio’n allanol a gellir ei sefyll naill ai ar-lein neu fel papur ysgrifenedig.

Dyddiadur lleoliad gwaith a gaiff ei farcio’n fewnol a’i gymedroli’n allanol.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Pedwar TGAU A*- C (gan gynnwys mathemateg, Saesneg neu Gymraeg) neu gymhwyster lefel dau mewn pwnc perthnasol i lefel teilyngdod ochr yn ochr â chyfweliad llwyddiannus ac o leiaf 85% o ran presenoldeb.    

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.           

Yn ychwanegol, mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu eu cyfarpar marchogaeth eu hunain, gan gynnwys bŵts marchogaeth addas, het sy’n bodloni safonau cyfredol y diwydiant a menig. Mae angen i ddysgwyr ar y llwybr nad yw’n cynnwys marchogaeth gael bŵts iard addas ar gyfer gweithio o amgylch y ceffylau a chyfarpar ar yr iard. Mae cymorth ariannol ar gael i ddysgwyr sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer cymorth.