Skip page header and navigation

Hyfforddi Hyfforddwyr Cam 2 BHS Cymdeithas Ceffylau Prydain (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion, Lefel 1)

  • Campws Pibwrlwyd
10 wythnos

Cynlluniwyd y cwrs hwn i baratoi dysgwyr ar gyfer arholiad ‘Hyfforddwr Sylfaen’ Cam 2 BHS. 

Bydd y cwrs yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth wrth gyflwyno gwers gan gynnwys gwaith tir gwastad a neidio. Bydd gwaith tir gwastad yn dangos dealltwriaeth o weithio gyda grwpiau bach o farchogwyr wrth gerdded, trotian a gorgarlamu gan weithio ar falans ac ystum marchogaeth, a all gynnwys gwaith gyda gwartholion a hebddynt.  Yn ogystal, byddwch yn ennill sgiliau ar gyfer cyflwyno sesiynau rheoli stablau ymarferol sy’n cwmpasu gweithgareddau arferol fel gwisgo ffrwyn, rhoi rỳg neu wastrodi.  Byddwch yn deall egwyddorion hyfforddi, sut mae marchogwyr yn datblygu, sut i gyflwyno deunydd pwnc newydd a sut i ddelio â phroblemau.

Cynhelir y cwrs yng Nghanolfan Hyfforddi Gymeradwy BHS Coleg Sir Gâr.  Caiff y sesiynau ymarferol eu cyflwyno ar yr iard a bydd y cwrs hefyd yn cynnwys gwersi theori yn y Coleg yn ogystal â modiwlau theori fel dysgu dan arweiniad ar-lein. 

Sylwch - cyfle hyfforddi yn unig yw’r cwrs hwn ac nid yw’n cynnwys cymhwyster Hyfforddwr Cam 2 BHS.  Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr archebu’r asesiad eu hunain gyda Chymdeithas Ceffylau Prydain. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
10 wythnos

£390

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Dysgu dan arweiniad ar-lein, mynediad i adnoddau a chefnogaeth
  • Cwblhau eich Cofnod Sgiliau
  • Bydd y cwrs yn para am 10 wythnos gydag un sesiwn 3 awr yr wythnos yn y coleg.
  • Amgylchedd dysgu cefnogol
  • Deall rolau a chyfrifoldebau hyfforddwr
  • Deall anghenion marchogwyr
  • Gallu hyfforddi’n ddiogel
  • Gallu dangos sgiliau rheoli gwers 
  • Gallu hyfforddi gwers ffrwyn arweiniol
  • Gallu hyfforddi gwers arwain 
  • Gallu hyfforddi gwers grŵp mewn gwaith tir gwastad a neidio integredig 
  • Gallu hyfforddi gwers rheoli stablau ymarferol 
  • Gallu cynllunio ar gyfer datblygiad proffesiynol
  • Hyfforddiant a pharatoi er mwyn ymgymryd ag asesiad hyfforddwr Cam 2 BHS a fydd yn rhoi ardystiad o’r sgiliau sylfaenol i’r ymgeisydd i weithio yn y diwydiant fel hyfforddwr cynorthwyol
  • Hyfforddwr Cam 2 BHS yw’r cam cyntaf ar yr ysgol hyfforddi er mwyn dod yn Hyfforddwr BHS mewn Marchogaeth Cyflawn.
  • Mae yna alw cynyddol am bobl sydd â sgiliau ymarferol da i weithio mewn iardiau stablau, gwaith gre a rasio, ymysg disgyblaethau a meysydd eraill.

Does dim asesu ffurfiol gyda’r cwrs hwn

Rhaid i ddysgwyr fod dros 17 oed ac yn meddu ar aelodaeth Aur gyfredol y BHS

Mae angen cefndir addas a pherthnasol ym maes ceffylau a phrofiad o weithio gyda cheffylau a’u trafod ac mae’n bosibl y gofynnir am eirda gan berson â chymwysterau neu brofiad addas. 

Rhaid bod dysgwyr wedi cyflawni asesiad Gofal a Marchogaeth Cam 2 BHS yn llwyddiannus er mwyn dilyn y cwrs hwn a rhaid i ymgeiswyr allu darparu tystiolaeth o’r Dystysgrif Cam 2.

Mewn rhai achosion, gall tystysgrif Cydnabod Dysgu Ardystiedig Blaenorol olygu y gall ymgeiswyr fod yn gymwys ar gyfer mynediad uniongyrchol i asesiadau lefel Cam 2 ac uwch y BHS ac felly maen nhw’n gymwys ar gyfer y cwrs hyfforddi hwn - gweler gwefan Cymdeithas Ceffylau Prydain i gael mwy o wybodaeth neu cysylltwch ag Uned Dderbyn Coleg Sir Gâr.   

  • Mae ffi o £390 ar gyfer y cwrs
  • Mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu eu cyfarpar eu hunain, gan gynnwys bŵts iard addas, het i safonau cyfredol y diwydiant a menig ar gyfer gweithio o gwmpas y ceffylau a’r cyfarpar.