Skip page header and navigation

Diploma Lefel 5 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Lefel 5)

  • Campws Pibwrlwyd
2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Anelir y cwrs hwn at benaethiaid adran newydd neu uchelgeisiol, rheolwyr cyffredinol a rheolwyr canol ac mae’n ddelfrydol os ydych am ddatblygu gwybodaeth fusnes arbenigol a sgiliau technegol.   

Fel dysgwr, byddwch yn cael sylfaen drylwyr yn eich rôl a’ch cyfrifoldebau ac yn manteisio ar y cyfle i atgyfnerthu a datblygu ymhellach y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch ar y lefel hon.

Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.  Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy’n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Gwella galluoedd rheolaeth craidd
  • Datblygu gwybodaeth mewn meysydd arbenigol, fel cyllid a marchnata
  • Cymryd cyfrifoldeb dros eich datblygiad eich hun fel arweinydd
  • Profi y gallwch chi gael effaith fesuradwy ar eich sefydliad trwy brosiectau ac asesiad seiliedig ar y gweithle.

Mae yna 7 uned i’w cwblhau:

  • Deall y Rôl Rheolaeth i Wella Perfformiad Rheolaeth
  • Rheoli eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus Eich Hun
  • Dod yn Arweinydd Effeithiol
  • Datblygu Meddwl Beirniadol
  • Cyflwyno Achos Ariannol
  • Rheoli Gwelliant
  • Arwain Arloesedd a Newid

Gellir addasu/teilwra unedau’r rhaglen i weddu i anghenion unigolion a chyflogwyr.

Yr hyn byddwch chi’n ei gyflawni:

  • Ennill y wybodaeth i gefnogi eich rôl rheolaeth ganol
  • Cael rheolaeth ar eich datblygiad personol
  • Deall newid yn y gweithle
  • Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a chynhyrchiol yn y gwaith
  • Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol

Buddion i’r cyflogwr:

  • Adeiladu arferion rheolaeth cynaliadwy sy’n gweithio ar gyfer y tymor hir
  • Meincnodi gwybodaeth a galluoedd rheolwyr
  • Annog staff i reoli eu dilyniant gyrfaol yn rhagweithiol ar gyfer cynllunio olyniaeth ac i ddatblygu’r ffrwd ddoniau

Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.