Skip page header and navigation

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: craidd – Oedolion/Plant a Phobl Ifanc Lefel 2

  • Campws Aberystwyth
  • Campws Y Graig
Blwyddyn - Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn golygu darparu cefnogaeth, cymorth a gofal i unigolion a all fod ag anghenion corfforol, meddyliol neu gymdeithasol. Mae’n faes eang sy’n cwmpasu rolau a lleoliadau amrywiol.

Y lefel dau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd: Mae’r cymhwyster hwn wedi ei anelu at ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru sy’n gweithio neu sy’n dymuno gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae wedi ei ddatblygu gan gonsortiwm City and Guilds/CBAC mewn cydweithrediad â budd-ddeiliaid o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), tiwtoriaid, athrawon ac aseswyr yn y gwaith.

Mae wedi’i gynllunio i’w gyflwyno gan ystod o wahanol fathau o ganolfannau gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith ac addysg bellach.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
Blwyddyn - Dysgu Seiliedig ar Waith

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae hwn yn gwrs hyblyg, wedi’i gynllunio i weddu i ddysgwyr sy’n well ganddynt barhau i weithio ochr yn ochr â’r cymhwyster neu o fewn lleoliad coleg.

Mae’r cwrs yn elfen ofynnol er mwyn symud ymlaen i’r rhan ymarfer: Lefel 2 neu 3.

Mae’r cymhwyster yn cwmpasu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n adlewyrchu ystod o wahanol rolau a lleoliadau

Mae’r cynnwys yn cwmpasu;

  • Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol
  • Iechyd a Lles
  • Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
  • Diogelu Unigolion

Iechyd a Diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i astudio pellach; gan gynnwys y cymwysterau canlynol o fewn y gyfres iechyd a gofal cymdeithasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Ymarfer (Oedolion) 

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Egwyddorion a Chyd-destunau (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 Ymarfer (Oedolion)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 (Plant a Phobl Ifanc)

Diploma a Thystysgrif Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau

TAG Safon Uwch a TAG Uwch Atodol Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant

Asesir y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 Craidd a Phlant a Phobl Ifanc Craidd trwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol.

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’n llwyddiannus:

  • Tri asesiad wedi’u gosod yn allanol, yn seiliedig ar senario fewnol; ac
  • Un prawf amlddewis, wedi’i osod a’i farcio’n allanol.

Bydd gofyn i chi gael cyfweliad llwyddiannus a chael eich asesu’n ffurfiol gan ddefnyddio pecyn cymorth WEST. Bydd angen gwiriad DBS uwch boddhaol arnoch hefyd - £55.50.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun. Rhaid i’r gweithle ganiatáu digon o amser i alluogi cyfarfodydd rheolaidd rhwng  aseswr, dysgwr a rheolwr.

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau