
BA (Anrh) Cynghori
- Campws Rhydaman
Mae cynghori yn yrfa broffesiynol lle mae empathi, tosturi a gwrando gweithredol yn cyfuno i rymuso unigolion ar eu taith o dwf personol a gwella.
Mae’r BA mewn cynghori (cwrs atodol) yn gwrs blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser sy’n agored i gynghorwyr cymwysedig. Fel arfer, pobl sydd wedi cwblhau gradd sylfaen y coleg neu gymhwyster cyfwerth fydd y rhain. Byddwch wedi cwblhau 100+ o oriau mewn lleoliad cynghori dan oruchwyliaeth fel rhan o’ch cymhwyster cychwynnol.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r BA yn cynnig datblygiad proffesiynol parhaus i gynghorwyr yn dilyn eu gradd sylfaen yn ogystal â chynnig cyfle i fyfyrwyr ennill gradd anrhydedd BA lawn.
Mae’r BA yn cynnwys pum modiwl:
- Sylfaen mewn cynghori pobl ifanc
- Cyflwyniad i Therapi ymddygiad gwybyddol
- Gweithio gyda thrawma
- Datblygu Ymarfer Integreiddiol
- Traethawd estynedig
Gallwch symud ymlaen o’r BA i gwrs meistr ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, campws Abertawe neu rywle arall, os ydych chi’n bodloni’r gofynion mynediad.
Mae myfyrwyr o’r cwrs hwn wedi mynd ymlaen i gael gwaith mewn gwahanol leoliadau cynghori megis gwasanaethau cynghori mewn ysgol a gwasanaethau profedigaeth yn ogystal â gweithio mewn practis preifat.
Asesu parhaus drwy gydol y cwrs sy’n cynnwys:
- Crynodebau dyddlyfr adfyfyriol
- Traethodau ar theori
- Astudiaethau achos
- Cyflwyniadau grŵp ac unigol
- Prosiect annibynnol/Traethawd estynedig
- Mae angen i ymgeiswyr fod yn gynghorwyr cymwys sydd wedi cwblhau 240 credyd ar lefel pump o gymhwyster cynghori
- Gwiriad manwl y cynllun datgelu a gwahardd
- Dau eirda
- Efallai y cynghorir myfyrwyr sydd wedi profi trawmâu neu brofedigaethau diweddar, neu a ystyrir gan y tiwtoriaid i fod yn rhy fregus ar hyn o bryd, i ohirio eu mynediad i’r cwrs. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o hunanymwybyddiaeth a’r gallu i adfyfyrio ar brofiad bywyd yn ogystal â bod â’r gallu i ymdopi â gofynion emosiynol ac academaidd y cwrs
- Bydd eich cymhwyster cychwynnol wedi cynnwys 100+ o oriau ymarfer mewn lleoliad cynghori dan oruchwyliaeth
DBS Manwl: £55.50.
Aelodaeth myfyriwr BACP - £86 y flwyddyn
Llyfrau - mae’r llyfrgell yn adnodd gwych ac mae’n cynnwys mwyafrif y llyfrau sy’n ofynnol ond efallai y bydd rhai myfyrwyr am fod yn berchen ar gopïau o destunau craidd.