Skip page header and navigation

Lefel 2 a 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: ymarfer - Oedolion/Plant a Phobl Ifanc

  • Campws Aberystwyth
1 Flwyddyn

Mae gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn golygu darparu cefnogaeth, cymorth a gofal i unigolion a all fod ag anghenion corfforol, meddyliol neu gymdeithasol. Mae’n faes eang sy’n cwmpasu rolau a lleoliadau amrywiol.

Lefel 2 a 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Ymarfer   

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rheiny sy’n gweithio, neu sy’n dymuno gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r cymhwyster hwn yn datblygu gallu dysgwyr i gefnogi anghenion iechyd a gofal oedolion yn ymarferol mewn ystod o leoliadau. Mae cynnwys y cymhwyster hwn yn cadarnhau gwybodaeth a gafwyd trwy gyflawni’r cymhwyster lefel dau Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd.

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith.  Bydd y cymhwyster yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr trwy eu gwaith.

Mae’r cymhwyster hwn yn ofynnol er mwyn i ddysgwyr weithio mewn swyddi penodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Gofal Cymdeithasol.

Manylion y cwrs

Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae hwn yn gwrs hyblyg, wedi’i gynllunio i weddu i ddysgwyr sy’n well ganddynt barhau i weithio ochr yn ochr â’r cymhwyster.

I gyflawni’r cymhwyster Lefel 2 a 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol:   Ymarfer (Oedolion) rhaid i ddysgwyr:

  • Gyflawni lleiafswm o 35 credyd i gyd.
  • Rhaid cyflawni 14 credyd o’r grŵp gorfodol.
  • Rhaid cyflawni lleiafswm o 14 credyd o grŵp opsiynol A.
  • Gellir cyflawni’r 7 credyd sy’n weddill o’r unedau yng ngrwpiau opsiynol A neu B.
  • Gellir cyflawni mwyafswm o 14 credyd o grŵp opsiynol A a B o unedau ar lefel 3
  • Yr isafswm oriau dysgu dan arweiniad sydd eu hangen ar gyfer y cymhwyster hwn yw 175.

Mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i astudiaeth bellach; gan gynnwys y cymwysterau canlynol o fewn y gyfres Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 Mae’r cymhwyster yn caniatáu dysgwyr i symud ymlaen i’r

cymhwyster Consortiwm* canlynol:

  •  Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  •  Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)

*Mae’r consortiwm yn cynnwys City & Guilds of London Institute a CBAC a weithiodd ar y cyd i ddatblygu a chyflwyno’r holl gymwysterau yn y gyfres Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.

  • Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ac mae’n asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith.
  • Bydd y cymhwyster yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr trwy eu gwaith.

Bydd gofyn i chi ymgymryd â chyfweliad llwyddiannus a chael eich asesu’n ffurfiol gan ddefnyddio pecyn cymorth WEST.

Yn ogystal, bydd angen gwiriad DBS manwl boddhaol arnoch - £55.50.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun.

Rhaid i’r gweithle ganiatáu digon o amser i alluogi cyfarfodydd rheolaidd rhwng  aseswr, dysgwr a rheolwr.

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau