
Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
- Campws Aberystwyth
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar wybodaeth ac mae ar gyfer staff profiadol sy’n dymuno datblygu eu potensial i arwain er mwyn symud ymlaen i rôl arwain a rheoli yn y sector gofal plant. Gan ei fod yn seiliedig ar wybodaeth, gall dysgwyr gwblhau’r cymhwyster hwn cyn iddynt gael rôl arwain.
Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymwysterau canlynol neu gymwysterau cyfwerth cydnabyddedig yn llwyddiannus:
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
- hen gymhwyster a restrir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Rheoleiddiedig yng Nghymru - Gofal Cymdeithasol Cymru
Manylion y cwrs
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae hwn yn gwrs hyblyg, wedi’i gynllunio i weddu i ddysgwyr sy’n well ganddynt barhau i weithio ochr yn ochr â’r cymhwyster.
Mae’r cymhwyster lefel pedwar Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn cynnwys y tair uned ganlynol:
- Arwain ymarfer plentyn-ganolog
- Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth
- Deall sut i arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
I ennill y cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 60 credyd. Mae pob uned yn y cymhwyster hwn yn orfodol.
Mae’r cwrs lefel pedwar Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn darparu’r wybodaeth i helpu rheolwyr i gymryd eu cam cyntaf i rôl arwain, ac i symud ymlaen i:
- Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant gydag Arbenigedd
- Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer, ar yr amod bod y dysgwr mewn swydd briodol.
- Mae cyfleoedd ar gyfer astudio pellach a hyfforddiant proffesiynol yn cael eu harchwilio gyda phrifysgolion ledled Cymru
Caiff y cymhwyster hwn ei asesu trwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol.
Ar gyfer yr asesu allanol rhaid i ddysgwyr gwblhau yn llwyddiannus:
- Prosiect sy’n cynnwys cyfres o dasgau sy’n seiliedig ar newid arfaethedig i ymarfer
Ar gyfer yr asesiad mewnol rhaid i ddysgwyr gwblhau yn llwyddiannus:
- Cyfres o dasgau, sy’n cynnwys ymatebion llafar ac ysgrifenedig
Bydd gofyn i chi ymgymryd â chyfweliad llwyddiannus a chael eich asesu’n ffurfiol gan ddefnyddio pecyn cymorth WEST.
Yn ogystal, bydd angen gwiriad DBS manwl boddhaol arnoch - £55.50.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun. Rhaid i’r gweithle ganiatáu digon o amser i alluogi cyfarfodydd rheolaidd rhwng aseswr, dysgwr a rheolwr.