Skip page header and navigation

Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

  • Campws Aberystwyth
1 Flwyddyn

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer i’r rheiny sydd â phrofiad mewn rôl arwain neu reoli yn y sector gofal plant.

Fe’i cynlluniwyd i helpu dysgwyr dros 19 oed i ymarfer fel arweinwyr a rheolwyr yn y sector ac mae’n arbennig o berthnasol i’r rheiny sy’n rheoli darpariaeth Dechrau’n Deg, neu i’r rheiny sy’n cyflwyno’r cwricwlwm ar gyfer plant 3-7 oed mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen yng Nghymru.

Hefyd mae’n addas ar gyfer:

  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus y cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus hen gymhwyster perthnasol a restrir yn y ‘Fframwaith Cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru’ - Gofal Cymdeithasol

Manylion y cwrs

Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

The qualification is primarily designed for learners aged 16-19 who are following a two-year course. It will normally be taken alongside another level 3 qualifications, such as a combination of A levels and/or vocational qualifications.

The Advanced Skills Baccalaureate Wales can be completed in Welsh or English.

Mae cynnwys gorfodol y cymhwyster Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer yn cwmpasu’r unedau gorfodol canlynol:

  • Arwain a rheoli ymarfer plentyn-ganolog
  • Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
  • Arwain a rheoli ansawdd y gweithle/lleoliad
  • Ymarfer proffesiynol
  • Arwain a rheoli ymarfer sy’n hyrwyddo diogelu plant
  • Arwain a rheoli iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gweithle/lleoliad

Mae ystod o unedau opsiynol hefyd ar gael o fewn y cymhwyster hwn.

Mae’r cymhwyster yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu cyfleoedd cyflogaeth neu barhau i astudio ymhellach ar lefel uwch.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei asesu’n allanol.

Rhaid i ddysgwyr gwblhau’n llwyddiannus:

  • Portffolio o dystiolaeth
  • Prosiect busnes
  • Trafodaeth broffesiynol

Rhaid i ddysgwyr gyflawni lleiafswm o 120 credyd i gyd.

  • 90 credyd o’r grŵp Gorfodol 
  • Lleiafswm o 30 credyd o’r grŵp Opsiynol

Bydd gofyn i chi ymgymryd â chyfweliad llwyddiannus a chael eich asesu’n ffurfiol gan ddefnyddio pecyn cymorth WEST.

Yn ogystal, bydd angen gwiriad DBS manwl boddhaol arnoch.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun. Rhaid i’r gweithle ganiatáu digon o amser i alluogi cyfarfodydd rheolaidd rhwng  aseswr, dysgwr a rheolwr.

Mwy o gyrsiau Iechyd, Gofal a Chynghori

Chwiliwch am gyrsiau