
Prentisiaeth Astudiaethau Ceffylau
- Campws Pibwrlwyd
Mae’r brentisiaeth astudiaethau ceffylau yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae’r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at ddysgwyr o 16 oed a hŷn. Rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig yn y diwydiant ceffylau am o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth neu fe all fod yn hunangyflogedig ar lefel 3 neu uwch. Ceir tair lefel o brentisiaethau ceffylau; lefel 2, lefel 3 a lefel 4.
Bydd dysgwyr ar lefel 2 a lefel 3 yn llunio portffolio o dystiolaeth tra ar eu cwrs er mwyn ennill diploma seiliedig ar waith City and Guilds. Bydd y dysgwyr hyn hefyd yn cael y cyfle i sefyll eu hasesiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS) ar ddiwedd eu prentisiaeth. Bydd dysgwyr ar y brentisiaeth lefel 4 yn astudio tuag at eu hasesiad gofal cam 4 BHS yn unig a fydd hefyd yn digwydd ar ddiwedd eu cwrs.
Nod y cymwysterau hyn yw uwchsgilio a datblygu lefelau cymhwysedd a gwybodaeth unigolyn, gan helpu gwella sgiliau cyflogadwyedd dysgwyr yn y diwydiant. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn teithiau astudio blynyddol rhyngwladol / cenedlaethol. Caiff rhai o’r teithiau rhyngwladol hyn eu hariannu’n llawn.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y prentis yn dod i’r coleg un diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor. Yn y coleg, mae dysgwyr yn ymdrin â gwybodaeth ddamcaniaethol greiddiol mewn gofal ceffylau yn yr ystafell ddosbarth a sgiliau ymarferol arbenigol ar iard y coleg.
Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a darlithydd a fydd yn gosod targedau smart ar gyfer unigolion ar sail 61 o ddiwrnodau, gan sicrhau y bydd dysgwyr yn cadw ar y trywydd iawn i gyflawni eu cymhwyster.
Bydd dysgwyr yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr, canolfan arholi a gymeradwyir gan Gymdeithas Ceffylau Prydain sydd wedi’i lleoli ar ei gampws Pibwrlwyd yng Nghaerfyrddin. Mae cyfleusterau’n cynnwys ysgol dan do, menage awyr agored ac iard stablau sy’n lletya amrywiaeth o geffylau cystadlu i fyfyrwyr eu defnyddio.
Mae enghreifftiau o unedau astudio ar lefel 2 yn cynnwys:
- Maetheg
- Anatomeg a Ffisioleg
- Gofal Glaswelltir
- Cynllunio stablau
- Arwain ceffyl dan oruchwyliaeth
Mae enghreifftiau o unedau astudio ar lefel 3 yn cynnwys:
- Bwydo a Ffitrwydd Ceffylau
- Anatomeg a Ffisioleg
- Iechyd Ceffylau
- Rheoli Glaswelltir
- Arwain ceffyl heini ar gyfer ymarfer
- Gosod Tac a Chyfarpar ar gyfer cystadlaethau
Mae enghreifftiau o unedau astudio ar lefel 4 yn cynnwys:
- Gosod a Gwerthuso tac arbenigol
- Ffisioleg Ceffylau a bridio
- Rheoli busnes ceffylau
- Maeth Ceffylau
- Asesu Iechyd a chydffurfiad ceffylau
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth sylfaen hon yn llwyddiannus i’r safon ofynnol, symud ymlaen i brentisiaeth ar lefel tri a gweithio yn y diwydiant fel gwastrodion/staff yr iard dan oruchwyliaeth.
Gall prentisiaid lefel 3 sydd wedi cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus symud ymlaen i brentisiaeth geffylau uwch ar lefel pedwar. Mae myfyrwyr yn aml yn symud ymlaen yn eu gwaith i fod yn gynorthwywyr rheoli iard, neu i gael eu cyflogi fel prif wastrodion ac ati.
Bydd Prentisiaid Uwch Lefel 4 yn cyflawni hyn gyda’u cymhwyster Rheolaeth Gofal Ceffylau cam 4 BHS. Nod y cymhwyster hwn yw hyfforddi unigolion i statws rheolwr iard.
Bydd dysgwyr ar y llwybr diploma seiliedig ar waith City & Guilds yn llunio portffolio o dystiolaeth, a asesir gan staff cymwysedig y coleg yn y gweithle ac yn y coleg hefyd. Bydd dysgwyr ar y llwybr BHS yn cael eu hasesu’n barhaus ynghyd ag arholiad diwedd blwyddyn. Bydd dysgwyr ar y naill lwybr neu’r llall yn cael eu hasesu’n barhaus drwy waith cwrs, aseiniadau, gwaith ymarferol, tystiolaeth yn y gwaith ac arsylwadau.
Does dim gofynion mynediad cymhwysedd penodol ar lefel 2, fodd bynnag mae yna gymwysterau neu brofiad a fydd yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn dechrau.
Gofynion mynediad dymunol ar lefel 2:
- Tystysgrif Lefel 1 BTEC mewn Gofalu am Geffylau
- Diploma Seiliedig ar Waith Lefel 1 mewn Gofal Ceffylau
- BHS Cam 1 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau
Ymholwch wrth wneud cais os nad oes cymwysterau blaenorol.
Ar lefel 2, rhaid cyflawni Cymhwyso Rhif (Lefel 1) Sgiliau Hanfodol Cymru a Chyfathrebu (Lefel 1) Sgiliau Hanfodol Cymru er mwyn i ddysgwyr gwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus. Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol.
Gofynion mynediad ar lefel 3 yw:
- BHS Cam 2 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau
- Diploma Seiliedig ar Waith Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau
- NVQ Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau
- Prawf B y Pony Club + arwain ceffyl
Ar lefel 3 a Lefel 4 rhaid cyflawni Cymhwyso Rhif (Lefel 2) Sgiliau Hanfodol Cymru a Chyfathrebu (Lefel 2) Sgiliau Hanfodol Cymru er mwyn i ddysgwyr gwblhau eu fframwaith prentisiaeth yn llwyddiannus. Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol ee TGAU mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch.
Gofynion mynediad ar lefel 4 yw:
- BHS Cam 3 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau
- BHSQ Lefel 3 Gwastrawd
- Prawf AH y Pony Club
Ar lefel 4, bydd hefyd angen i ddysgwyr sefyll eu Sgiliau hanfodol lefel 2 mewn Llythrennedd digidol. Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol.
Does dim ffi ychwanegol wrth astudio ar y llwybrau City & Guilds. Bydd angen i ddysgwyr ddarparu eu deunydd ysgrifennu a’u cyfarpar personol eu hun. Mae’n bosibl y gallwch fynd i gostau hefyd os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
I’r dysgwyr hynny sy’n cael y cyfle i sefyll eu harholiadau BHS a’r dysgwyr prentisiaeth Uwch Lefel 4 ar y llwybr BHS, bydd angen iddynt dalu am aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain er mwyn sefyll asesiadau BHS.