Skip page header and navigation

BSc (Anrh) Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu (BSc)

  • Campws Rhydaman
2 flynedd

Mae rheolaeth adeiladu yn ddewis gyrfa cyffrous sydd ag ystod o gyfrifoldebau a phosibiliadau o fewn diwydiant sy’n tyfu’n gyflym iawn.

Mae’r rhaglen radd ddwy flynedd ran-amser hon yn cael ei dilysu a’i achredu gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a bwriedir iddi ddarparu rhaglen astudio gydlynol sy’n datblygu’r sgiliau damcaniaethol, ymarferol a rheolaeth sy’n angenrheidiol i fodloni gofynion diwydiant deinamig sy’n newid yn gyflym. 

Fe’i cynlluniwyd i ddarparu cymhwyster sy’n addas ar gyfer y bobl hynny sydd eisoes yn ymarfer, y rheiny sy’n bwriadu ymarfer fel gweithwyr adeiladu proffesiynol a’r rheiny sydd am symud ymlaen i astudiaeth bellach. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
2 flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Prif nod y cwrs yw diwallu anghenion newidiol yr amgylchedd adeiledig trwy baratoi’r rheiny sy’n astudio ar y lefel hon i ennill gradd gydnabyddedig sy’n bodloni anghenion y diwydiant ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Mae’r rhaglen fodiwlaidd yn cynnwys pum modiwl (cyfanswm o 120 o gredydau Lefel 6). 

Modiwlau ym Mlwyddyn 1

  • Cyfraith Contract ac Amgylcheddol Adeiladu 
  • Technoleg Adeiladu ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy 
  • Astudiaethau Rheolaeth Adeiladu 
  • Modiwlau ym Mlwyddyn 2 -  
  • Prosiect Grŵp Integredig 
  • Traethawd Hir (8,000 o eiriau)

Mae’r cwrs hwn yn darparu cyfle i’r rheiny sy’n dymuno symud ymlaen, neu ddechrau, mewn ystod o yrfaoedd sy’n gysylltiedig ag adeiladu megis technoleg bensaernïol, rheolaeth prosiectau, rheoli adeiladu, tirfesur, rheolaeth safle, cynnal a chadw a gwasanaethau. 

Bydd asesiad Blwyddyn 1 trwy dri aseiniad modiwl a thri arholiad.

Bydd asesiad Blwyddyn 2 trwy aseiniad prosiect grŵp integredig a thraethawd hir 8,000 o eiriau.

Gradd sylfaen, neu gymhwyster HND cysylltiedig yn amodol ar reoliadau PCYDDS 

Mae’r brifysgol yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Gellir cael manylion pellach gan diwtor y cwrs.

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.