Skip page header and navigation

Prentisiaethau Plastro Solet (Cwrs Prentisiaeth)

  • Campws Rhydaman
36 Mis

Mae’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Plastro Solet wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn y sector adeiladu, gan ganolbwyntio ar roi gorffeniadau gwlyb ar waliau, nenfydau, a lloriau mewn adeiladau masnachol, diwydiannol a phreswyl. Nod y rhaglen hon yw datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer plastro solet, gan gynnwys rhoi gorffeniadau cymhleth yn ôl manylebau penodol. Mae’r brentisiaeth yn cyfuno hyfforddiant yn y gwaith gyda dysgu yn yr ystafell ddosbarth, gan sicrhau bod cyfranogwyr wedi’u paratoi’n dda ar gyfer gyrfa yn y grefft blastro.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
36 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r brentisiaeth Plastro Solet yn cynnwys elfennau gorfodol megis cymwysterau, sgiliau hanfodol, a chymysgedd o hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith. Mae’r rhaglen yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill sgiliau a gwybodaeth graidd, gweithio’n ddiogel, rheoli amser yn effeithiol, ac yn deall rheoliadau iechyd a diogelwch. Mae cwblhad llwyddiannus yn caniatáu i brentisiaid wneud cais am Gerdyn Crefft Uwch CSCS, sy’n gymhwyster a gydnabyddir yn y diwydiant.

Mae’r rhaglen yn cwmpasu cymwysterau mewn Plastro Solet, sgiliau hanfodol mewn cyfathrebu a rhifedd a hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith. Y gwerth credyd lleiaf ar gyfer Llwybr Lefel 3 mewn Plastro Solet yw 118 o gredydau. Bydd prentisiaid yn ennill profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol sydd eu hangen i gyflawni eu gwaith yn gymwys.

Ar gwblhau, gall prentisiaid symud ymlaen i rolau goruchwylio neu reoli neu barhau â’u haddysg gyda Phrentisiaeth Lefel Uwch. Hefyd gallant efallai wneud cais am Gerdyn Crefft Uwch CSCS, gan wella eu cyfleoedd cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu.

Mae dulliau asesu’n cynnwys cyfuniad o ddangosiadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, a gwerthusiadau ar y safle i sicrhau bod prentisiaid yn bodloni’r safonau a chymwyseddau gofynnol mewn plastro solet.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16+ oed ac yn gyflogedig yn y grefft ar hyn o bryd. Dylen nhw fod wedi cwblhau’r Cymwysterau Sylfaen neu Ddilyniant mewn Adeiladu, neu feddu ar Dystysgrif/Diploma Lefel 2 neu 3 yn y grefft berthnasol. Fel arall, efallai gall cyflogaeth brofadwy yn y grefft am dair blynedd neu fwy fod yn ddigon. Rhoddir ystyriaeth hefyd i gymwysterau ychwanegol fel Bagloriaeth Cymru neu TGAU mewn pynciau perthnasol.
 

TGAU graddau D neu uwch mewn pwnc seiliedig ar gyfathrebu, pwnc sail rifiadol a phwnc sail dechnegol.

Efallai bydd costau ychwanegol ar gyfer gwerslyfrau, cyfarpar diogelu personol, ac offer sydd eu hangen ar gyfer sesiynau hyfforddi ymarferol. Costau teithio i leoliadau hyfforddi neu ganolfannau arholiad i ffwrdd o’r safle Efallai bydd costau ychwanegol ar gyfer gwerslyfrau, cyfarpar diogelu personol, ac offer sydd eu hangen ar gyfer sesiynau hyfforddi ymarferol. Mae’n bosibl y gellid cael treuliau teithio i leoliadau hyfforddi neu ganolfannau arholi i ffwrdd o’r safle. Caiff prentisiaid eu hannog i drafod costau posibl gyda’u darparwr hyfforddiant neu gyflogwr er mwyn deall unrhyw oblygiadau ariannol.