Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 (Cwrs Coleg, Lefel 2)
- Campws Aberteifi
Mae adeiladu yn ddiwydiant eang sy’n cynnwys cynllunio, dylunio, adeiladu a chynnal a chadw adeileddau a seilwaith. Mae’n cwmpasu ystod eang o weithgareddau ac arbenigeddau, gan gynnwys prosiectau adeiladu preswyl, masnachol, diwydiannol a sifil.
Mae’r rhaglen sylfaen mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu yn rhoi cyflwyniad eang i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i datblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio neu sy’n bwriadu gweithio yn y sectorau hyn.
Bydd y cymhwyster hwn, a anelir at ddysgwyr yn y sector addysg bellach, yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio ystod o gyrsiau adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu lefel dau neu dri eraill sy’n berthnasol i’w maes diddordeb o ran crefft.
Mae’r rhaglen yn caniatáu i fyfyrwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyn gyrfa yn y diwydiant adeiladu.
Dewisiadau Opsiwn
- Cymhwyster Sylfaen mewn Gweithio gyda Brics, Blociau a Cherrig a Phlastro.
- Cymhwyster Sylfaen mewn Galwedigaethau Coed a Thoi.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth myfyrwyr gan eu galluogi i symud ymlaen i’r diwydiant yn eu crefft ddewisol. Datblygwyd y rhaglen yn benodol i’w chyflwyno mewn amgylchedd hyfforddi modern. Caiff y cwrs ei gyflwyno gan staff tra chymwys a phrofiadol gan ddefnyddio cyfleusterau modern. Hefyd, fel rhan o’r rhaglen bydd dysgwyr yn cwblhau sgiliau hanfodol neu sylfaenol. Darperir cyfleoedd yn ogystal i sefyll TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac i ddatblygu’r iaith Gymraeg.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned graidd orfodol sy’n cwmpasu’r canlynol yn gyfannol:
- Cyflwyniad i’r sectorau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Cyflogaeth a sgiliau cyflogadwyedd
- Iechyd a diogelwch
Yn ychwanegol at yr unedau hyn, bydd dysgwyr yn cwblhau dwy uned grefft i dreulio amser ychwanegol yn dysgu, a fydd yn cynnwys cynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau cyffredin. Mae’r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth eang, drawsbynciol o’r sector i ddysgwyr, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u datblygiad eu hunain. Gweler hefyd yr adran ar yr opsiynau sydd ar gael.
Mae’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (lefel 2) yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu eu:
- Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r adeileddau sy’n ffurfio’r amgylchedd adeiledig a sut maen nhw’n newid, ac wedi newid, dros amser.
- Dealltwriaeth o’r crefftau, y rolau a gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
- Dealltwriaeth o gylchred oes adeiladau ac adeileddau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ar bob cam.
- Dealltwriaeth o gynaladwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
- Gwybodaeth am dechnolegau sy’n dod i’r amlwg yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
- Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn berthnasol ac yn bwysig yn y gweithle yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
- Gwybodaeth am egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n amddiffyn iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd a’r gallu i’w cymhwyso.
- Gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sydd eu hangen wrth gynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn o leiaf dwy grefft o fewn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
Ar gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y diwydiant adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yn ogystal â gwybodaeth ragarweiniol a sgiliau mewn dau faes crefft. Mae’r cymhwyster yn darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i symud ymlaen i astudio pellach, megis:
- Dilyniant mewn Adeiladu (Lefel 2) - City & Guilds
- Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) - EAL
- Prentisiaeth mewn Adeiladu (Lefel 3) (maes crefft) - City & Guilds
- Prentisiaeth Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) (maes crefft) - EAL
- TGAU graddau A* i D mewn mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith neu
- Lefel 1 / 2 CBAC mewn adeiladu’r amgylchedd adeiledig neu
- gymhwyster lefel un sy’n gysylltiedig ag adeiladu
- Mae croeso i ddysgwyr hŷn wneud cais ac mae’n amodol ar gyfweliad
Gwaith Plymwr, Gwresogi, Awyru a Systemau a Chyfarpar Electrodechnegol
- TGAU graddau A*-D mewn Saesneg neu Gymraeg (Iaith 1af), Mathemateg ac un arall yn ddelfrydol yn ymwneud â Gwyddoniaeth neu
- Lefel 1 / 2 CBAC mewn Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig neu
- Gymhwyster Lefel 1 sy’n gysylltiedig ag Adeiladu neu
- Ddysgwyr hŷn yn amodol ar gyfweliad
Sylwer: Yn ogystal, bydd angen i ymgeiswyr fynychu cyfweliad llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb hefyd yn y grefft ddewisol a byddai tystiolaeth o allu ymarferol yn fantais.
Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain sy’n cynnwys bŵts diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a dillad llachar.
Yn ogystal mae angen i fyfyrwyr brynu eu deunydd ysgrifennu eu hunain a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.