Skip page header and navigation

HNC Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu (Cwrs Coleg)

  • Campws Rhydaman
18 Mis

Mae rheolaeth adeiladu yn cynnig llwybr dilyniant gyrfaol eang gyda nifer o rolau tra chyfrifol mewn diwydiant sy’n tyfu’n gyflym.

Dilysir a dyfernir y rhaglen 18 mis ran-amser hon gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a bwriedir iddi adeiladu ar y wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd o ganlyniad i astudiaeth flaenorol neu brofiad. 

Fe’i cynlluniwyd i ddarparu cymhwyster sy’n addas ar gyfer y bobl hynny sydd eisoes yn ymarfer, y rheiny sy’n bwriadu ymarfer fel uwch dechnegwyr a’r rheiny sydd am symud ymlaen i astudiaeth bellach. 

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
18 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Cynllun modiwlaidd
  • Cydnabyddir gan gyrff diwydiannol a phroffesiynol fel y Sefydliad Adeiladu Siartredig
  • Cymhwyster annibynnol
  • Astudio rhan-amser

Mae’r rhaglen fodiwlaidd yn cynnwys o leiaf saith modiwl penodol.  Dyfernir y cymhwyster llawn pan fydd yr holl fodiwlau wedi’u cwblhau.   

Modiwlau Penodol -

  • Cyfraith a Chontract Amgylchedd Adeiledig
  • Technoleg Adeiladu 1
  • Iechyd, Diogelwch, Lles a Risg mewn Adeiladu
  • Tendro ac Amcangyfrif
  • Syrfeo a Mesur Adeiladau
  • Deunyddiau a Gwyddoniaeth
  • Rheolaeth Safleoedd

Gall cwblhau’r HNC yn llwyddiannus wella rhagolygon gyrfa o fewn y diwydiant adeiladu a chyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig megis gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, ymddiriedolaethau gwasanaeth iechyd, cyfleustodau wedi’u preifateiddio a diwydiannau eraill sy’n berchen ar eiddo. Gellir uwchraddio’r cymhwyster i radd sylfaen gydag astudiaeth bellach.

Asesir y modiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau, prosiectau, profion cyfnodol ac arholiadau. 

  • Cymhwyster technegol lefel 3 sy’n gysylltiedig ag adeiladu
  • Dau gymhwyster Safon Uwch
  • Myfyriwr hŷn gyda phrofiad, yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus
  • NVQ Lefel 3 mewn disgyblaeth sy’n gysylltiedig ag adeiladu

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.